Cartref digidol diwylliant Cymru.

Meddwl.org yn cael ei gydnabod fel elusen gofrestredig : Golwg360

No Categories Found

Ers 2016, mae criw o wirfoddolwyr wedi gweithio i greu gwefan Meddwl.org, sy’n darparu gwybodaeth am amryw o faterion iechyd meddwl, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wefan yn blatfform cynhwysol sy’n galluogi pobl i rannu eu profiadau, codi ymwybyddiaeth a lleihau’r stigma.

Yr wythnos hon, daw carreg filltir bwysig i’r sefydliad, wrth iddynt gael eu cydnabod fel elusen gofrestredig – y cyntaf o’r fath yng Nghymru.

“Y bwriad wrth sefydlu’r wefan nôl yn 2016 oedd ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth, adnoddau a chymorth iechyd meddwl oedd ar gael yn Gymraeg ar y We,” meddai un sefydlwr gwreiddiol y wefan, Manon Elin James sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. “Roedd rhywfaint o ddeunydd Cymraeg eisoes ar wefannau gwahanol,” eglurai, “ond roedd y wybodaeth yn bytiog ac ar wasgar.

Darllenwch fwy yma

RHANNWCH