Cartref digidol diwylliant Cymru.

Posteri Meirion Wyn Jones Apêl #poster2020

CelfCerddoriaeth

Llun: Padarn Roc, 1980

Lansiwyd Apêl #poster2020 ar Ddydd Miwsig Cymru yn Chwefror 2020 er mwyn cofnodi hanes bandiau a gigs yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd. Casglwyd dros 150 o bosteri a fanzines erbyn hyn, rhai ar bapur ond y rhan fwyaf ohonynt yn electronig. Diolch i bob dylunydd, trefnydd gigs, aelod band neu ‘ffan’ sydd wedi cyfrannu at y casgliad cenedlaethol hyd yma. Cysylltwch â ni os oes na fwy o bosteri neu ‘fanzines’ gallwch chi gyfrannu at ein casgliad.


Un o’r uchafbwyntiau oedd 24 poster a 7 o gloriau recordiau a ddyluniwyd gan Meirion Wyn Jones (pennaeth creadigol Strata Matrix, FBA a FOUR CYMRU yn Aberystwyth). Mae’r posteri yn cynnwys gigs gan y bandiau Chwys, Rhiannon Tomos, Trwynau Coch, Ar Log, Caryl a’r Band, Crysbas, Geraint Jarman, Doctor, Edward H Dafis ac Eliffant. Roedd Meirion Wyn Jones yn ddylunydd graffeg i gwmni Dylunio ac Argraffu ‘Copa Cymru’, Urdd Gobaith Cymru rhwng tua 1977 a 1985, ac fe wnaeth ddylunio cloriau LP’s i Sain hefyd e.e. recordiau Dafydd Iwan, Trwynau Coch, Ar Log, Rhiannon Tomos, Jip, a Tecwyn Ifan.

Crysbas – Sos Coch – Caernarfon 1978


Geraint Jarman – Caerdydd, 1978



Dawns gyda Seindorf a Disgo – Blaendyffryn, 1978




Eliffant – Aberystwyth, 1979




Geraint Jarman – Aberystwyth, 1979




Wythnos y Glas – Aberystwyth, 1979




Doctor – Aberystwyth, 1980




Twrw Tanllyd- Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980




Padarn Roc, 1980

Llanbadarn Roc, 1981





Caryl ar’r Band – Abertawe 1984



Dawns Rhyng-golegol – Aberystwyth




Geraint Jarman a’r cynganeddwyr – Talybont




Edward H.Dafis – Pontyberem




Cymdiethas yr Iaith Gymraeg – Wythnos yr Achos Cynllwynio gyda’r hwyr




Edward H.Dafis – Eisteddfod Rhyn-gol Aberystwyth




Doctor – Merch o Donegal




Jîp – Genod Oer


RHANNWCH