Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 92 – Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia

Llenyddiaeth

A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd y ‘diaspora’ Cymraeg wrth i’r Wladfa – neu’r ‘Wladychfa’ – ym Mhatagonia gael ei chreu.

Ond dechreuwn trwy bwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiadau Cymreig a Chymraeg yng Ngogledd America a hanes cynnar Y Wladfa trwy graffu ar gyfnod Michael D. Jones yn yr Unol Daleithiau. (Ac mae anghytundeb cyfeillgar ond gweddol boeth rhwng y ddau ohonom, wrth i Richard Wyn Jones geisio hawlio’r clod am ‘ddarlith ymfflamychol’ a draddododd Jerry Hunter mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yn 2001, sef ‘Cincinnati: Crud Cenedlaetholdeb Cymreig?’). Ond canolbwynt y bennod yw degawdau cyntaf gwasg Gymraeg y Wladfa, wrth i ni ryfeddu at ymdrech i greu cylchgrawn heb wasg argraffu cyn symud ymlaen i ystyried amrywiaeth ddiddorol o gynnwys Y Dravod.

RHANNWCH