3.7.23 – 14.7.23
Gair ffug yw Afoniaeth; cyfuniad o ddau air Cymraeg: afon + barddoniaeth. O fewn ei chyfnod preswyl ar-lein, bydd Gwenllian yn archwilio iaith ei hafon leol trwy sain, ffilm, ffotograffiaeth, print a cherflunio, wrth gwestiynu sut y gallem gyfieithu afon a darganfod ei afoniaieth.
Artist dwyieithog o Ferthyr Tudful yw Gwenllian Davenport. Mae ei hymarfer yn archwilio ei hunaniaeth a’i pherthynas â dwyieithrwydd. Mae Gwenllian wedi’i hysbrydoli gan ei thirwedd leol ac mae hyn yn llywio ei dewisiadau o ddeunyddiau a’i ffurf o greu.