Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 89 – Gwilym Hiraethog

Llenyddiaeth

Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883).

Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fywyd llenyddol a deallusol Cymru. Aeth yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, gan ddilyn Robert Everett, ac yn debyg i’r gweinidog hwnnw a ymfudodd i’r UDA, roedd gwrthwynebu caethwasiaeth ymysg yr achosion radicalaidd a goleddid gan Gwilym Hiraethog. Symudodd i Lerpwl wedyn gan fynd yn un o hoelion wyth cymuned Gymraeg y ddinas honno. Roedd yn fardd amryddawn: cyfansoddodd nifer o emynau sy’n cael eu canu hyd heddiw (er mawr siom i Jerry Hunter, gwrthododd Richard Wyn Jones ganu un!), ysgrifennodd rai o gerddi caeth mwyaf poblogaidd ei gyfnod, ac arbrofodd gyda ffurf heriol honno, yr ‘arwrgerdd’.

Roedd hefyd yn un o arloeswyr y nofel Gymraeg. Fel sylfaenydd a golygydd Yr Amserau, aeth ymysg cynheiliaid pwysicaf y wasg gyfnodol Gymraeg yn y cyfnod hefyd, a chyhoeddodd lawer o ysgrifau yn y papur hwnnw a gyflwynai wleidyddiaeth Ewropeaidd radicalaidd i ddarllenwyr Cymraeg.

RHANNWCH