Rydw yn artist cerameg yn byw yn caerdydd, Heddiw rydw yn cyflwyno fy ymchwil ac datblygiad creadigol ar gyfer fy casgliad diwethaf, Merched y Mabinogi. Cafodd y Mabinogi ei ysgrifennu lawr yn Llyfr Coch Hergest, fel rhan o gasgliad ehangach o ryddiaith werin Geltaidd a Chanoloesol. Cyn hynny, nid oedd y Mabinogi yn destun ysgrifenedig. Roedd yn bodoli drwy draddodiad llafar, yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth gan y Cyfarwydd.
Drwy fy ngwaith, rwy’n gosod fy hun fel Cyfarwydd cyfoes, yn ailadrodd y Mabinogion nid ar lafar na thrwy ryddiaith ond drwy gelf weledol. Llunnodd y dull hwn fy nealltwriaeth o’r ymchwil, sut gallaf gymryd rôl y Cyfarwydd mewn cymdeithas gyfoes heddiw?