Prosiect Llais y Lle – Y Gloch, Y Gwrych a’r Gwlychu:
Galwad agored ac ymateb cyfunol i newid diwyllianol ac amgylcheddol yn Nyffryn Peris. Comisiynu artistiaid i ddatblygu gwaith oddi mewn ac ar draws cymunedau yn y rhyngwyneb o hinsawdd, iaith, diwylliant a hunaniaeth
Am Llais y Lle:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf i’r gronfa ariannu sefydliadau cymunedol.
Gan adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol i artistiaid, dyma’r tro cyntaf inni wahodd ceisiadau i’r gronfa gan sefydliadau cymunedol i archwilio ffyrdd beiddgar a chreadigol o roi diwylliant Cymraeg a Chymreig wrth wraidd ein cymunedau.