Prosiect Llais y Lle – Llais y Lle: Pentredwr:
Labordy blwyddyn o hyd sy’n archwilio’r gymuned a hiraeth ac sy’n datblygu’r Gymraeg mewn ffyrdd chwareus a chyfranogol.
Am Llais y Lle:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf i’r gronfa ariannu sefydliadau cymunedol.
Gan adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol i artistiaid, dyma’r tro cyntaf inni wahodd ceisiadau i’r gronfa gan sefydliadau cymunedol i archwilio ffyrdd beiddgar a chreadigol o roi diwylliant Cymraeg a Chymreig wrth wraidd ein cymunedau.