Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyddodd i ennill gyda hi yn Eisteddfod Wrecsam yn 1820, aeth hi’n awdl boblogaidd iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Craffwn ychydig ar yr enghraifft wych hon o awdl eisteddfodol. Rhaid crybwyll Cawrdaf yng nghyd-destun hanes rhyddiaith greadigol Gymraeg hefyd; trafodwn y gyfrol a gyhoeddodd yn 1830, Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig, a gofyn a yw’n bosibl mai hi yw’r nofel Gymraeg gyntaf?!