Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, ac ennill yr enw ‘Eben Fardd’. Wedyn, mae disgrifio’r modd y daeth yn fardd cenedlaethol o bwys yn dadlennu tipyn ar ddiwylliant eisteddfodol Cymru yn ystod y degawdau cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei sefydlu. Cewch flas ar fwrlwm Eisteddfod Powys yn Y Trallwng, 1824, gan gynnwys agweddau sy’n tystio i afael Prydeindod ac imperilaeth ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod.
Craffwn wedyn ar gampwaith Eben Fardd, sef yr awdl a ddaeth yn fuddugol yn yr eisteddfod honno, ‘Dinistr Jerusalem’, un o awdlau eisteddfodol mwyaf poblogaidd a mwyaf dylanwadol y ganrif.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach:
E. G. Millward, Eben Fardd (Gwasg Pantycelyn, 1988).
Ebenezer Thomas, Eben Fardd (Dalen Newydd, 2014).
Eben Fardd, Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2024).