Mae Byw i’r Dydd yn gân hyfryd sydd wedi ei chyfansoddi gan Rhydian Meilir, gyda’r fidio a’r animeiddio wedi ei greu gan y talentog Morgan Elwy. Mae’n gyfanwaith sy’n cynrhychioli ymgyrch ‘Nerth dy Ben’ a’i fwriad o atgoffa’n gilydd o’n nerth a’n cryfderau, a’r hyn dani’n gallu ei gyflawni.
Dewch draw i’n sianel ar Ddydd Miwsig Cymru i weld y fideo!
I ddeall mwy am Nerth dy Ben ewch i’r wefan www.nerthdyben.cymru. Mae modd lawrlwytho ‘Byw i’r Dydd’ ar itunes a bydd cyfran o bob lawrlwythiad yn dod yn ôl i ariannu’r prosiect.