Artist o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Angharad Lewis. Mae ei gwaith celf yn chwarae gyda chyfieithu fel cyfrwng esthetaidd. Bydd ei haddasiad o nofel Anthony Shapland ‘Lan Stâr’ (A Room Above a Shop) mas yn y gwanwyn. Mae’n gyd-olygydd ar Gyhoeddiadau’r Stamp, ac enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad, Blobus a Phryderon Eraill.
Preswyliad Ymchwil a Datblygu efo Catrin Menai 12–19 Gorffennaf 2025
Man cychwyn ymchwil Catrin ac Esyllt oedd map o enwau caeau Ynys Enlli. Daeth y map yn ganllaw iddynt er mwyn archwilio ffiniau ieithyddol, tiriogaethol a dehongliadol – drwy gyfrwng ymchwil ar y tir a sgyrsiau casglebol. Buon nhw’n darllen y caeau drwy gerdded, synhwyro a sgwrsio, gan gaflgamu rhwng ffyrdd o wybod a gaiff eu cadw ar wahân yn aml iawn… dealltwriaeth barddonol a gwyddonol, personol ac ecolegol, llafar ac ysgrifenedig.
“Caeau’r Dychymyg” – gweithdy dwy awr yn cyfuno taith gerdded â myfyrdod ar iaith a thirwedd yr ynys. Chwe chyfranogwr.