Gwyliais hi drwy’r bwlch yn y gwrych – roeddwn wedi fy hoelio i’r man – yn ymwybodol fy mod yn ymwthio i foment personol ac arwyddocaol yn ei bywyd. Teimlais y dyliwn i symyd yn fy mlaen a pharhau ar fy nhaith gerdded, ond roedd rhywbeth yn fy ngorfodi i aros am hirach na ddyliwn i.
Y crys gwyn ar y lein ddillad oedd wedi tynnu fy sylw. Crys yn perthyn i ddyn. Roedd gwynder y dilledyn yn anhygoel yn yr haul dyfriog, a sylweddolais beth oedd ei arwyddocâd yn syth. Roedd yn ddarlun ingol a chymhellol, llawn gofal a theimlad a hefyd yn anhygoel o hardd.
Symudodd Mari’n araf a gofalus. Roedd ei chefn wedi’ droi tuag ata i, ei hosgo yn lletchwith a’i symudiadau yn edrych yn hen a phoenus. Roedd hi’n gwisgo ei chôt arferol dros sgert frown oedd yn gorchuddio ei phen-gliniau, a theits trwchus lliw croen oedd i’w gweld uwchben esgidiau glaw byr, pinc oedd yn cyrraedd boliau ei choesau.
Gwyliais wrth iddi lanhau rhan nesaf y lein ddillad plastig yn araf a bwriadol hefo hen hosan, cyn plygu gydag anhawster i godi dilledyn arall o’r fasged olchi, a’i hongian. Cyn hir, roedd wedi llenwi’r lein ddillad fach oedd yn ymestyn rhwng dwy goeden afalau.
Aeth yn ôl i’r crys gwyn cyntaf, gan roi sylw arbennig iddo. Tynnodd ac ymestynnodd y coler, y llewys, y ddwy ran blaen a’r cefn, un rhan ar y tro. Chwipiodd y crys yn ysgafn hefo’i llaw rhychiog i lyfnhau’r defnydd. Credais yn gryf mai hwn fyddai ei mab yn gwisgo i gynhebrwng ei Dad.
Safodd Mari yn ôl i edrych ar ei gwaith a throdd ei phen yn sydyn, fel petai wedi clywed rhywbeth. Rhewais i’r man, ofn cael fy narganfod yn lygadwr busneslyd. Ond chwilio am yr aderyn oedd yn canu yn y goeden wrth ei hymyl oedd hi. Wrth iddi weld y Robin Goch ar frigyn agos ddim ond hyd fraich oddi wrthi, ymddangosodd awgrymiad o syndod ar ei hwyneb. Peidiodd y Robin ei ganu wedi iddo ddal sylw Mari a rhyfeddais o weld fod ei lygaid du, sgleiniog yn edrych yn uniongyrchol i’w hwyneb hi. Buon nhw’n cyfathrebu mewn llonyddwch a distawrwydd llwyr am rai eiliadau.
Siglodd brigau di-ddail y coed afalau a’r Cennin Pedr yn ysgafn yn yr awel a hedfanodd y Robin i ffwrdd. Trodd Mari yn araf i godi ei basged.
Wrth i mi fynd heibio’r berllan ar fy nheithiau cerdded dyddiol, dwi’n dal i feddwl am y crys gwyn oedd yn hongian ar y lein.