Parhad i ddathliad Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ydi Byw Mewn Heddwch felly mae wedi bod yn hollbwysig i ni nodi hynny o’r cychwyn cyntaf.
Ym mis Medi 2025, aethon ni am dro (Mynd am Dro at Mary) efo Mair Tomos Ifans i goffau gwaith Mary Ellis yr heddychwraig o Ddolgellau fu’n un o’r bedair i gydlynu’r Ddeiseb a hwylio efo hi draw i America i’w chyflwyno i ferched y wlad er mwyn rhoi pwysau ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Er na ddigwyddodd hynny, mae ymdrech y merched i gasglu bron i 400,000 o enwau merched Cymru yn anhygoel. Cerddon ni o Ddolgellau i Lanelltyd mewn glaw trwm (fel wnaeth rhai o’r merched oedd yn mynd o ddrws i ddrws i hel llofnodion) a chael hanes Mary Ellis gan Jessica John sydd wedi bod yn gweithio ar gael plac i’w choffau ynghanol Dolgellau.
Mae Mair wedi bod yn rhedeg gweithdai creu Hetiau Heddwch yn Nolgellau a Dinas Mawddwy gan ein hatgoffa ni i gyd o’r merched o dan yr hetiau yn y 1920au. Yn deillio o hyn, mae penillion wedi eu creu gan y criw fel teyrnged i’n neiniau.
Yn yr Ysgwrn dan arweiniad Meleri Davies a Sian Melangell Dafydd ddechrau Chwefror, cafwyd diwrnod hynod ddiddorol yn ymateb i’r merched anweledig sy’n cynnal ein cymunedau er mwyn gwella ein bywydau cymdeithasol a theuluol ni i gyd ond hefyd i ddysgu mwy am y merched a’u gelwid yn wrachod na gafodd y fraint o fyw eu bywydau mewn heddwch. Trwy eiriau a gan drin clai, mi gaethon ni fynegi ein hymateb i’r holl hanesion a thrafodaethau’r dydd.
