Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a’r awdur Sioned Erin Hughes.
Daw Erin yn fardd o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda’i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Y Lolfa). Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, Iaith Heb Ffiniau (Carreg Gwalch) a chydolygydd Beyond/Tu Hwnt (Lucent Dreaming).
Roedd ei chyfrol O’r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd.
Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a’r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.
Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon
- James a’r Eirinen Wlanog Enfawr – Roald Dahl, addasiad Elin Meek
- Nab Wrc – Roald Dahl, addsiad Elin Meek
- Moddion Rhyfeddol George – Roald Dahl, addasiad Elin Meek
- Matilda – Roald Dahl, addasiad Elin Meek
- The Book Thief – Markus Zusak
- I Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’Farrell
- The Choice – Edith Eger
- Casglu Llwch – Georgia Ruth
- Tell Me Who I Am – Georgia Ruth
- Camu – Iola Ynyr
- Nelan a Bo – Angharad Price
- The Bell Jar – Sylvia Path
- Reason To Stay Alive – Matt Haig
- A Thousand Splendid Suns – Khaled Hosseini
- The Kite Runner – Khaled Hosseini
- Lan Stâr – Anthony Shapland, addasiad Esyllt Lewis
- Devotions – Mary Oliver
Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.