Cartref digidol diwylliant Cymru.

Partneriaeth gyda QueerAF: Nain a ŵyr orau? Neiniau a Theidiau, a phwysigrwydd derbyn pobl cwiar

Llenyddiaeth

Wrth ddod allan i’r teulu, mae neiniau a theidiau’n aml yn cael eu portreadu fel y rhai i baratoi amdanynt – yr ymateb a allai fod yn anghyfforddus, neu’n dawel ond yn ddinistriol. Rydyn ni’n cael ein hannog i reoli disgwyliadau, i feddalu’r iaith, ac i baratoi ar gyfer siom, gyda’r esboniad cyfarwydd: “maen nhw o genhedlaeth wahanol”.

Ond mae’r ffordd hon o feddwl yn anwybyddu’r gofal a’r cariad dwfn y gall llawer o’r genhedlaeth hon ei ddangos tuag at aelodau cwiar o’u teulu.

Mewn trafodaethau am dderbyn pobl cwiar, mae’r ffocws fel arfer ar rieni, ysgolion a sefydliadau. Ond nid dyma’r unig fannau lle caiff gwerthoedd eu ffurfio. Pan fydd neiniau a theidiau’n bresennol, maen nhw’n aml yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd mae cariad, perthyn a derbyniad yn gweithredu o fewn teulu.

Nid profiad cyffredinol yw hyn. Mae llawer o bobl ifanc cwiar yn tyfu i fyny heb neiniau a theidiau, yn eu colli’n gynnar, neu’n profi gwrthod. Nid yw neiniau a theidiau’n warant o ddiogelwch ym mywydau pobl cwiar. Ond pan maen nhw’n dangos agwedd agored, gall eu dylanwad cadarnhaol ar iechyd meddwl ŵyr neu wyres cwiar, ac ar strwythur y teulu, fod yn ddwys iawn.

Yn fy nheulu i, fy Nain oedd y person cyntaf i mi ddod allan iddi. Doedd dim angen tawelu ei meddwl. Yn hytrach, tynnodd ar y synnwyr o hunaniaeth roedd hi wedi’i feithrin ynof ers blynyddoedd. Dywedodd wrtha i fy mod wedi fy ngwneud yn union fel roeddwn i fod i fod. Fydda i byth yn anghofio’r sgwrs honno yn ystafell wely fy rhieni. Fe atseiniai ei chefnogaeth drwy’r teulu, wedi’i hadlewyrchu yng nghariad tawel fy Nhaid. Roedden nhw wedi magu eu plant gyda’r un cariad, ac aeth y cylch yn ei flaen. Daeth derbyniad yn sicrwydd, gan roi caniatâd i’w hwyres cwiar fod yn driw iddi’i hun ac i ffynnu.

Mewn cymunedau dosbarth gweithiol Cymreig fel yr un y cefais fy magu ynddi, mae gan neiniau a theidiau awdurdod arbennig yn aml. Yn y Cymoedd, mae teuluoedd yn aml yn byw’n agos at ei gilydd, sy’n golygu bod aelodau hynaf y teulu’n cymryd rôl fatriarchaidd gref. Mae eu cymeradwyaeth yn bwysig, ac mae ymdeimlad o derfynoldeb pan fyddan nhw’n mynegi eu teimladau.

Mae ymchwil yn cefnogi hyn. Mae astudiaethau gan Brifysgol Rutgers yn awgrymu bod llawer o neiniau a theidiau’n ymateb i ŵyr neu wyres yn dod allan gyda derbyniad, hyd yn oed os oes ansicrwydd ar y dechrau. Mae sefydliadau fel PFLAG wedi cydnabod hyn drwy greu adnoddau penodol ar gyfer neiniau a theidiau sydd am gefnogi eu hwyrion LHDTCIA+. Mae ymchwil ar bobl ifanc LHDTCIA+ yn dangos y gall neiniau a theidiau fod yn ffynhonnell hanfodol o ddiogelwch a pherthyn, yn enwedig pan fo’r person ifanc yn disgwyl cael ei wrthod.

Mae digon o straeon sy’n tynnu sylw at gysur a phwysigrwydd derbyniad gan “genhedlaeth y neiniau a’r teidiau”. Mae’r awdur Eva Bloom yn adrodd sut derbyniodd ei nain eu deurywioldeb ar unwaith, ac yn ddiweddarach estynnodd ei dealltwriaeth i gefnogi partner anneuaidd yr awdur, gan ddweud nad yw “unrhyw berthynas gariadus yn bechod”. Yn y cyfamser, daeth sgwrs dod allan y dylanwadwr traws Kevin Ninh gyda’i nain 82 oed yn firaol, ar ôl iddi ymateb yn syml drwy ddweud y gallai ddefnyddio pa bynnag ragenwau fyddai’n ei gwneud hi’n hapus. Nid oherwydd drama y bu’r foment hon mor bwerus, ond am ei bod yn dangos pa mor syml y gall derbyniad fod pan fo cariad yn dod gyntaf.

O safbwynt cymdeithasegol, nid yw’r dylanwad hwn yn syndod. Mae teuluoedd yn safleoedd allweddol o gymdeithasoli cynradd, lle caiff normau a gwerthoedd eu hamsugno drwy ryngweithio bob dydd yn hytrach nag addysgu ffurfiol. Er bod rhieni’n aml wrth wraidd y broses hon, mae gwerthoedd yn cael eu trosglwyddo rhwng cenedlaethau, gyda rhieni’n aml yn ail-greu’r agweddau y cawsant hwy eu magu gyda nhw.

Felly, mae neiniau a theidiau’n chwarae rôl anuniongyrchol ond arwyddocaol wrth lunio’r ffordd y caiff ‘bod yn cwiar’ ei ddeall o fewn teulu. Pan fyddan nhw’n dangos derbyniad, gall y normau a drosglwyddant ddylanwadu ar ymateb y teulu cyfan.

Wrth gwrs, gall hyn weithio i’r cyfeiriad arall hefyd. I lawer o bobl ifanc cwiar, nid yw neiniau a theidiau’n ffynhonnell o ddiogelwch. Yn ystadegol, mae cenedlaethau hŷn yn fwy tebygol o ddal safbwyntiau traddodiadol ar rywedd a rhywioldeb, wedi’u siapio gan y fframweithiau cyfreithiol, crefyddol a diwylliannol y cawsant eu magu ynddynt. Mae hyn yn aml yn dod i’r amlwg yn arbennig mewn achlysuron teuluol a gwyliau fel y Nadolig. I Charlie Rigoni, arweiniodd hyn at roi’r gorau i fynd adref ar ôl cael cyngor i beidio â rhannu eu rhagenwau gyda’u taid oherwydd “fyddai e ddim yn deall”. Er mwyn diogelu eu hunain rhag niwed emosiynol, fe wnaethon nhw ddewis cadw pellter.

Caiff dyfodol pobl cwiar ei adeiladu mewn sawl man: ar-lein, ar loriau dawns, ac o fewn teuluoedd dewisol. Ond mae hefyd yn cael ei lunio mewn ystafelloedd byw a cheginau. Nid yw neiniau a theidiau bob amser yn gwybod orau, ond ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd y genhedlaeth hon wrth adeiladu dealltwriaeth. Pan fydd neiniau a theidiau’n dewis bod yn agored ac yn arwain gyda gofal yn hytrach nag ofn, maen nhw’n trosglwyddo ymdeimlad o hunan-werth sy’n para am oes. Dewisodd fy neiniau a theidiau fi. Dewison nhw gariad.

Mae’r erthygl hon yn rhan o bartneriaeth QueerAF a Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru sy’n ymroddedig i ddyrchafu newyddiadurwyr LGBTQIA+ Cymreig sy’n dod i’r amlwg ac sydd ar y cyrion.

Gallwch ddilyn Taya ar Instagram a TikTok

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr wythnosol QueerAF neu dewch yn aelod.

RHANNWCH