Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sut i Ddarllen: Huw Stephens

Llenyddiaeth

Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo.

Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales – 100 Records.

Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon

  • Y Dyn’i Hun – Hywel Gwynfryn
  • The Twits – Roald Dahl
  • Boy – Roald Dahl
  • Paid a Bod Ofn – Non Parry
  • All the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg James
  • Is-Deitla’n Unig – Emyr Glyn Williams
  • Diolch Dewi! – Ffrindiau’n Cofio – Gol. Myrddin ap Dafydd
  • Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic Stephens
  • A Room Above a Shop – Anthony Shapland
  • Bechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen
  • Cam o’r Tywyllwch – Rhys Mwyn
  • Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da – Delwyn Siôn
  • Atgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a’r Groes – Barry (Archie) Jones
  • Atgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai Toms
  • Cerddi’r Ystrad – Lyn Ebenezer
  • Lladd Arth – Kayley Roberts
  • Of Mice and Men – John Steinbeck
  • Y Tŵr – Gwenlyn Parry
  • Zonia Bowen – Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I – Zonia Bowen
  • Oedolyn (ish) – Melanie Owen
  • Cylchgrawn Folding Rock
  • O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
  • Gwlad Bardd – Rhys Iorwerth
  • O! Tyn y Gorchudd – Angharad Price
  • The Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd Jones
  • Nelan a Bo – Angharad Price
  • Yr Odliadur – Roy Stephens
  • Salem a Fi – Endaf Emlyn
  • Ffansins / Zines: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, Klust

Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

RHANNWCH