Cartref digidol diwylliant Cymru.

Am

Swydd Newydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnyrch

Purple graphic promoting new job at PYST

Wyt ti’n angerddol am gerddoriaeth Cymru ac yn hoffi cyfathrebu, marchnata a gweithio gyda phobl greadigol?
Mae PYST yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chynnyrch i ymuno â’n tîm bach brwdfrydig yng Nghaerdydd.


🔹 Wythnos waith 4 diwrnod (80%) gyda 100% o’r cyflog a’r buddion
🔹 Cymraeg yn hanfodol
🔹 Rôl amrywiol gyda dylanwad gwirioneddol ar brosiectau cerddorol Cymru
🔹 Gwaith hybrid a ffocws cryf ar les


💷 Cyflog: £26k – £28k y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)
📄 Cytundeb: 12 mis (gyda phosibilrwydd o estyniad)
📍 Lleoliad: Caerdydd


📩 I ymgeisio gyrrwch lythyr yn cyflwyno eich hun ac yn egluro pam y byddech yn hoffi gweithio i PYST ynghyd â CV gyfredol at alun@pyst.net. Os hoffech drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch ag Alun.


📅 Dyddiad cau: Dydd Llun, Chwefror 9ed 17:00


Cynhelir y cyfweliadau yng Nghaerdydd ar Chwefror 18ed. Os oes unrhyw broblemau gyda mynychu’r cyfweliad, cysylltwch ag alun@pyst.net.


Swyddog Cyfathrebu a Chynnyrch

Mae hon yn swydd newydd, gyffrous sydd yn gofyn am unigolyn trefnus, profiadol a brwdfrydig sydd yn meddu ar sgiliau arweinyddol a chyfathrebu cryf, a dealltwriaeth drylwyr o ddiwydiant cerddorol Cymru ynghyd ac adnabyddiaeth gyffredinol o’r celfyddydau yng Nghymru.

Cyfrifoldebau:

  • Rhedeg a datblygu rhwydweithiau cymdeithasol PYST.
  • Meithrin a chynnal perthynas gyda labeli ac artistiaid (presennol a newydd).
  • Cydweithio â Swyddog Cynnyrch PYST i ofalu am system rhyddhau recordiau PYST.
  • Datblygu marchnata recordiau a chyfleoedd hyrwyddo.
  • Cydlynu rhai o gyfleoedd a phrosiectau eraill PYST e.e Cronfa Fideos a Chronfa Gerddoriaeth.
  • Cydweithio gyda thîm Am.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd yn rhesymol o fewn y rôl

Rydym yn chwilio am unigolyn:

  • Sydd gan brofiad o redeg cyfrifon cymdeithasol ar ran sefydliad, megis Instagram, Facebook a Threads.
  • A all weithio fel rhan o dîm bach, rheoli amser a blaenoriaethu llwyth gwaith.
  • Sydd yn gallu cyfathrebu, meithrin a datblygu perthnasoedd, a chydlynu tîm.
  • Sydd yn meddu ar sgiliau dylunio sylfaenol, yn cynnwys dealltwriaeth o raglenni fel Canva.
  • Sydd gan wybodaeth a diddordeb yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru yn ogystal â bywyd diwylliannol ehangach Cymru.
  • Sydd a’r gallu i gyfathrebu yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig  yn y Gymraeg a’r Saesneg

Mwy am PYST

PYST yw’r system ddosbarthu a hyrwyddo cyntaf i labeli ac artistiaid Cymreig. Mae bellach yn dosbarthu, hyrwyddo cynnyrch a chasglu a rhannu incwm i dros 75 o labeli ac artistiaid sydd yn hunan-ryddhau.

Mae PYST hefyd yn gyfrifol am sawl prosiect cerddorol arall e.e Cronfa Gerddoriaeth PYST (ar ran Cymru Greadigol), Cronfa Fideos PYST x S4C a Chylchdaith PYST x Mentrau Iaith, ymysg eraill.

Mae PYST yn rhan o gwmni PYST Cyf yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Mae’n gwmni preifat drwy warant nad yw’n cymryd elw ac fe’i arweinir gan Alun Llwyd (Prif Weithredwr) ynghyd â Bwrdd Rheoli. Lleolir y cwmni mewn swyddfa yn Castle Arcade ynghanol Caerdydd. Yn ogystal â system ddosbarthu PYST, mae PYST Cyf hefyd yn gyfrifol am blatfform digidol diwylliannol Am.

Mae PYST Cyf yn dîm bach brwdfrydig. Yn ogystal â chydweithio gyda Swyddog  Cynnyrch PYST, bydd gweithio i PYST Cyf hefyd yn golygu rhywfaint o gydweithio gyda’r tîm sydd yn gweithio ar Am. Mae gwaith PYST Cyf wedi ei leoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, er ein bod yn gweithredu system hybrid sydd yn caniatáu gweithio o adref ambell ddiwrnod yr wythnos. Mae PYST hefyd yn treialu wythnos waith 4 diwrnod i hyrwyddo lles ein staff yn ogystal â chynnig lwfans gwyliau hael sydd cynnwys cau y swyddfa dros gyfnod gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Anogir chi i gysylltu ymlaen llaw am sgwrs am y swydd drwy gysylltu ag alun@pyst.net. I wneud cais, gyrrwch lythyr cais yn cynnwys eich CV a pham y teimlwch eich bod yn addas ar gyfer y swydd at alun@pyst.net .

Lleoliad: Caerdydd

Oriau: Llawn amser. 

Mae PYST ar hyn o bryd yn treialu wythnos waith 4 diwrnod (80% o’r oriau) gyda 100% o’r cyflog a’r gwyliau

Cyflog: £26k – £28k y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)

Hyd: Cytundeb 12 mis gyda phosibilrwydd o estyniad yn ddibynnol ar gyllido.

Pensiwn: Bydd y cyflogwr yn talu cyfraniad o 3%

Gwyliau: 28 diwrnod (yn cynnwys gwyliau banc statudol). Yn ychwanegol bydd y swyddfa yn cau ar Ddydd Gwyl Dewi a hefyd dros gyfnod y Nadolig / Blwyddyn Newydd

RHANNWCH