Gofod digidol newydd ar gyfer ysgrifennu creadigol ar Am.
Rydym yn falch o lansio Tudalen – cystadleuaeth yn gwahodd darnau o lên-meicro iaith Gymraeg, mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn lansio rhifyn cyntaf Tudalen gyda 3 darn buddugol o lên-meicro ar y thema ‘Portread’. Bydd y darnau ar gael ar Am ddydd Sul, Mawrth 1af!



