Wedi’i sbarduno gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, bydd Byw Mewn Heddwch yn annog gweithredu celfyddydol yn archwilio heddwch. Mewn cydweithrediad ag Academi Heddwch Cymru a Heddwch Nain/Mam-gu, cynhelir sesiynau aml-gyfrwng i gymunedau di-lais Meirionnydd (pobl ifanc GISDA a merched yr ardal). Archwilir ‘heddwch’ yn ei ystyr ehangaf – o’r personol i’r rhyngwladol gan greu ‘cymuned heddwch’ ar ein carreg ddrws
Dyma flog byr a chipolwg ar y prosiect hyd yma:
BYW MEWN HEDDWCH – Llinos Griffin
Nod ‘Byw mewn Heddwch’ ydi dod â merched ardal Meirionnydd ynghyd i drafod beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw trwy gyfrwng y Gymraeg ac ymateb i’r sgyrsiau hyn yn greadigol. Mae’n barhad i’r gwaith o ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24. Dan ni hefyd yn gweithio’n fisol efo pobl ifanc GISDA ym Mlaenau Ffestiniog ar yr un thema.
Bellach, mae grwpiau yn cyfarfod yn gyson yn ardal Penrhyndeudraeth a Dolgellau. Roedd grwp ysgrifennu creadigol yn cyfarfod yn Llan Ffestiniog hefyd dros yr Hydref. Mae cangen newydd yn canolbwyntio ar wnio ar fin cychwyn yn ardal y Bala.
Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi bod yn ddifyr iawn wrth i ni drafod pynciau fel pa mor heddychlon ydi Meironnydd mewn gwirionedd, beth fasen ni’n fodlon ei aberthu am heddwch, cymryd ennyd i feddwl am y bobl sydd ddim yn byw’n rhydd o gwmpas y byd a thalu teyrnged i ferched y Ddeiseb Heddwch.
Arweinwyr sesiynau Byw Mewn Heddwch dros y misoedd diwethaf: Mair Tomos Ifans, Sian Northey, Fiorella Wyn, Gudrun Jones, Margiad Jones
Rydym yn gweithio tuag at greu Ystafell Heddwch fel dathliad o’r prosiect.
