Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod John Jones (1766-1821), cymeriad amryddawn a adwaenir yn well heddiw fel Jac Glan-y-Gors. Yn wreiddiol o Gerrigydrudion, sir Ddinbych, treuliodd Jac y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Aeth yn rheolwr ac efallai’n berchennog ar sawl tafarn yn y ddinas ac roedd yn chwarae rhan amlwg mewn dwy o gymdeithasau Cymreig Llundain – y Gwyneddigion a’r Cymreigyddion.
Roedd Jac Glan-y-Gors yn fardd dychanol penigamp a defnyddiodd ei ddawn i ymosod ar ragrith o wahanol fathau. Mae ‘Cerdd Dic Siôn Dafydd’ yn dychanu’r Cymry hynny sy’n cefnu ar yr iaith Gymraeg ac yn cogio’u bod yn Saeson; mae’r ffaith bod yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw yn tystio i lwyddiant dychan Jac. Ac yntau’n coleddu gwerthoedd radicalaidd oes y chwyldro, cyhoeddodd Jac bamffledi Cymraeg sy’n cynnwys syniadau Tom Paine, Seren Tan Gwmwl a Toriad y Dydd ac mae’n debyg iddo gael ei erlid gan yr awdurdodau o’r herwydd.