Cartref digidol diwylliant Cymru.

Penwythnos o gerddoriaeth amgen ac arbrofol yng nghanolfan Tŷ Tawe, Abertawe diolch i NAWR

Cerddoriaeth

Tocynnau

Mae Gŵyl NAWR, gŵyl sy’n dathlu’r celfyddydau arbrofol, yn dychwelyd i leoliad Tŷ Tawe yn Abertawe ym mis Tachwedd – gan ehangu i ddigwyddiad deuddydd am y tro cyntaf.

Ar nos Wener y 7fed o Dachwedd bydd ffrind NAWR, Ani Glass, yn dod â’i thaith Phantasmagoria i Abertawe. Ani Glass yw enw llwyfan y cerddor electronig, cynhyrchydd ac arlunydd, Ani Saunders o Gaerdydd. Mae Glass yn canu yn y Gymraeg a’r Gernyweg ac ym mis Mawrth 2020 rhyddhawyd ei halbwm gyntaf ‘Mirores’ a enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Yn fuan ar ôl rhyddhau ‘Mirores’ yn 2020 cafodd Ani ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd anfalaen prin. Roedd y diagnosis yn ddechrau ar daith bersonol i Ani sydd wedi siapio ei halbwm newydd, albwm cysyniadol mewnsyllgar sy’n plymio’n ddwfn i’w phrofiad o ffeindio ei ffordd trwy fywyd gyda’r diagnosis.

Mae’r albwm yn un amlieithog ac yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, yn y Gernyweg ac mewn Saesneg. Mae Ani hefyd yn plethu ychydig o BSL (iaith arwyddo) i’w pherfformiadau byw. Yn ymuno gydag Ani ar y noson bydd yr artistiaid AV electronig o Abertawe, Movement81, yn ogystal â haenau ethereal a llais breuddwydiol Osgled.

Bydd y digwyddiad trwy’r dydd ar ddydd Sadwrn yr 8fed o Dachwedd yn gweld amrywiaeth eang o berfformiadau gan artistiaid ar draws dau lwyfan y lleoliad – gan gynnwys set i gloi’r noson gan Black Top, deuawd sy’n cynnwys yr aml-offerynnwr Orphy Robinson a’r pianydd Pat Thomas. Mae cerddoriaeth Black Top yn archwilio’r croestoriad rhwng offerynnau byw a thechnoleg lo-fi. Mae eu perfformiadau meistrolgar, rhydd yn cyfuno lwpiau, samplau ac effeithiau dub, sy’n tynnu ar eu gwreiddiau Affro-Garibïaidd, gyda byrfyfyrio wedi’i wreiddio mewn jazz arbrofol.

Yn ymuno â Black Top bydd Chwaer Fawr, prosiect unigol Mari Morgan, sy’n adnabyddus am ei chyfnodau gyda Rogue Jones, Bitw a Saron; yr artist Bedwyr Williams a’i waith sy’n cwmpasu perfformiad, fideo a thestun; Enwebeion Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 Tai Haf Heb Drigolyn; byd tonal rhyfeddol Bragod sy’n archwilio cerddoriaeth ganoloesol, seremonïol Cymru, a llawer mwy ar draws rhaglen y diwrnod.

Bydd dau brosiect newydd hefyd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf fel rhan o’r ŵyl, gan gynnwys perfformiad theatr gorfforol arbennig gan Eddie Ladd yn ymateb i gerddoriaeth Peiriant – deuawd o ffidil a gitâr drydan, sy’n arbrofi gydag alaw a thôn i greu awyrgylch a seinwedd unigryw. Bydd y cyfansoddwr o Abertawe, Damian Rees, hefyd yn cyflwyno darn newydd o waith am y tro cyntaf mewn cydweithrediad â’r cerddor o’r Ffindir Janne Malinen, a gomisiynwyd diolch i gefnogaeth Tŷ Cerdd.

Mae’r ŵyl eleni yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar y cyd rhwng NAWR a Menter Iaith Abertawe.

Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau amlddisgyblaeth yn Abertawe a’r Gelli Gandryll sy’n cynnwys cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin, a cherddoriaeth newydd. Nod gwaith NAWR yw cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar ac agos. Mae gwaith Menter Iaith Abertawe yn cynnwys creu cyfleoedd i bobl o bob oedran fwynhau a defnyddio’r Gymraeg yn yr ardal.

Mae tocynnau nos Wener ar gael am £10, tocynnau dydd Sadwrn yn £15, neu mae tocynnau penwythnos ar gael am £20 yn unig o flaen llaw. Mae’r holl docynnau ar gael i’w prynu yma. Bydd unrhyw docynnau sy’n weddill yn ddrytach ar y drws.

Mae’r digwyddiad hwn wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Ymholiadau: swyddfa@menterabertawe.org

RHANNWCH