Mae economi cynaliadwy yn “allweddol” i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ôl adroddiad y byddaf yn ei lansio yn rhithiol yn nes ymlaen heddiw.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraethau Cymru a’r DG ymrwymo i adferiad cynaliadwy. Ym mhecyn symbylu mwyaf diweddar y DG, mae gwariant gwyrdd penodol yn gyfran sylweddol is o’r gwariant
Mae’r papur, gan yr ymchwilydd annibynnol Dr Mark Lang yn adolygu sut y mae cymunedau eraill ledled y byd wedi ail-godi eu heconomïau yn wyneb dad-ddiwydiannu, ac y mae’r adroddiad yn rhoi syniadau newydd am sut y gall economi Cymru ymadfer yn dilyn y pandemig Coronafeirws.
Rwyf wedi gweld drosof fy hun mewn cymunedau fel Llanelli fod angen am Lywodraeth Cymru gyda syniadau newydd; mae’r blaid Lafur wedi colli stêm wedi 20 mlynedd o fod yng ngofal ein cenedl.
Mae’r aroddiad yn trafod:
rôl twristiaeth mewn ymateb i ôl-ddiwydiannu yn Bilbao, Gwlad y Basg, a Gwlad yr Iâ
pwysigrwydd datblygu ynni adnewyddol i hybu’r economi yng Ngwlad yr Iâ ac ardal y Ruhr yn yr Almaen
defnyddio rhwydweithiau addysgol cryf, addysg alwedigaethol hyblyg; cynyddu lefelau hyfforddiant pan fydd argyfwng yn taro
twf canolfannau bwyd lleol, yn Unol Daleithiau America
gwerth modelau cydweithredol mewn gofal oedolion a thai cymunedol
Cychwyn gorau
Adeiladwyd economi Cymru ar ein hadnoddau naturiol yn ystod y chwyldro diwydiannol, ond cawsom gyfnod o ddirywiad unwaith i’n dibyniaeth ar lo ddod i ben. Mae Cymru’n dal yn gyfoethog mewn adnoddau naturiol fel dŵr, gwynt a choedwigoedd sydd yn rhoi atebion i’r heriau mae economi Cymru yn wynebu nawr.
Wrth i ni ddatblygu’r adnoddau naturiol hyn, rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn dal ein gafael ar y miliynau o bunnoedd yr ydym yn eu hanfon allan o Gymru, a throi’r arian yn ôl i swyddi lleol a chyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae ein plant yn haeddu’r cychwyn gorau mewn bywyd. Os yw etholiad nesaf y Senedd yn golygu unrhyw beth, mae’n golygu ein pobl ifanc, ac iddynt hwy gael y gobaith maent yn haeddu a’r swyddi mae arnynt eu hangen er mwyn ffynnu yn eu cymunedau.
Wrth i Blaid Cymru baratoi rhaglen lywodraethu cyn etholiadau’r Senedd, dyma gyfraniad gwerthfawr i’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynghylch economi Cymru a’r ffordd yr ydym yn ail-godi ein heconomi a’n cymdeithas wedi’r pandemig.
Dyma’r math o feddylfryd sydd wedi ysbrydoli ein hymrwymiad i Ffyniant Cymru, Awdurdod Datblygu Economaidd newydd i Gymru fydd â’r dasg nid yn unig o greu cyfoeth, ond hefyd sicrhau bod cyfoeth yn cael ei ddosbarthu’n deg a bod pob datblygiad yn ein heconomi yn cyfrannu at yr agenda datgarboneiddio.
Blaenoriaeth
Ar ôl 20 mlynedd o reoli dirywiad dan law’r blaid Lafur yng Nghymru a chyda phlaid Dorïaidd ddinistriol aden-dde galed yn San Steffan, bydd pleidlais dros Gymru yn gosod y genedl ar drywydd uchelgeisiol newydd.
Er y gall ein cyfreithiau fod dan fygythiad o du llywodraeth San Steffan, yn ein deddfwriaeth lles, ar waethaf ei holl wrthgyferbyniadau sydd heb eu datrys, mae gan Gymru hadau adferiad cynaliadwy, fydd yn dechrau dadwreiddio’r lefelau uchel o anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a thlodi.
Mae arnom angen Llywodraeth Cymru sydd yn rhoi blaenoriaeth i’n busnesau, bach a mawr. Ac i’r gweithwyr sy’n gwneud i’r busnesau hynny weithio.
Nid yr hyn sydd gennym heddiw yw’r gorau. Gall Cymru wneud yn well, a gall Cymru gael gwell.
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu gwell dyfodol a chreu Cymru ffyniannus i bawb.