Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyhoeddi AmCam3!

CerddoriaethFfilm

Diolch i gefnogaeth Dydd Miwsig Cymru, mae Am yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gallu ariannu 4 ffilm ddogfen am gerddoriaeth o fewn cymunedau Cymru. Ymgeisiodd y 4 gwneuthurwr yma am AmCam2.

 

Bydd gŵyl ffilmiau gerddorol AmCam3 ar gael i’w fwynhau ar Am flwyddyn nesaf i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026! Yn y cyfamser, dewch i gyfarfod y 4 gwneuthurwr ffilm:

 

Lleucu Elisa

Yn wreiddiol o ardal Aberteifi, mae Lleucu Elisa bellach yn byw ac yn gweithio fel golygydd fideo yng Nghaerdydd. Yn ogystal a hyn, mae Lleucu’n parhau i weithio’n llawrydd fel fideograffydd a chydlynydd ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Lleucu wedi gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau cerddorol, o fod yn fideograffydd Maes B yn ystod Eisteddfod Pont-y-pridd, i saethu a golygu fideo cerddoriaeth i Sywel Nyw a Dewin. Mae Lleucu’n angerddol am y sîn gerddoriaeth yma yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd tu hwnt i’r Brif Ddinas, wrth iddi weithio fel Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol ar adfywiad y label Fflach Cymunedol. Fel person ifanc sydd wrth ei bodd â cherddoriaeth mae wedi mwynhau’r pleser o fedru gweithio i gyfeiliant y gerddoriaeth orau sydd gan Gymru i’w gynnig.

 

Kieron Shand

Mae Kieron Shand yn wneuthurwr ffilmiau sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae ganddo cryf dros fynegiant creadigol amlochrog, gan ddefnyddio amrywiol gyfryngau artistig er mwyn creu ffilmiau eclectig ac effeithiol. Trwy lens niwroamrywiaeth, anabledd, a bodolaeth, mae’n defnyddio ei allu gwneud ffilmiau i adrodd straeon mewnblyg a deniadol yn weledol.

 

Lowri Page

Mae Lowri Page yn grewr ffilmiau ac yn artist aml-ddisgyblaethol o ogledd Powys. Mae ganddi gefndir mewn creu ffilmiau dogfen am artistiaid gweledol, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi dechrau arbrofi gyda gwaith fideo aml-gyfrwng, gan gynnwys creu ei fideo cerddoriaeth cyntaf. Mae hi hefyd yn gwneud gwaith ffotograffiaeth ac illustration, ochr yn ochr â’i gwaith ffilm.

 

fruitb0y

Mae fruitb0y yn artist gweledol amlddisgyblaethol o Dalgarth ym Mannau Brycheiniog. Gan weithio ar draws graffeg, ffilm, barddoniaeth, cerddoriaeth, darlunio, graffiti, ffotograffiaeth a mwy, maen nhw’n adeiladu bydoedd artistig cyfan sy’n plymio i themâu iechyd meddwl, cartref, diwylliant, tlodi, byw gwledig, rhywioldeb, rhywedd a gwleidyddiaeth. Mae eu harddull yn cyfuno delweddaeth garw â negeseuon diffuant ac angerddol, gan gynrychioli eu diwylliant, eu teulu a’u cymuned yn falch.

 

RHANNWCH