Ymunwch a ni yn ‘The City Socials’
Dydd Iau 25 Medi
The Canopi, 59-61 Tudor St, Caerdydd CF11 6AD
6:30pm
Dysgwch fwy am yr artist, y gwaith, ac archebwch eich tocyn am ddim yma // teamcollectivecymru.org/cy/digwyddiadau/the-city-socials-september-2025
//
Tidal City gan Ashley McAvoy a Tracy Harris

Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn y dyfodol agos, wedi’i aflonyddu gan ei gorffennol anghofiedig, mae Tidal City yn berfformiad trochol sy’n cyfuno’r gair llafar, cerddoriaeth fyw, a thafluniad clyweledol. Mae’n archwilio sut mae ehangu cyflym y ddinas, amnesia dinesig, a’i hymgais ddi-baid am gynnydd wedi ei gwneud yn un o’r ardaloedd trefol mwyaf tueddol o gael llifogydd ym Mhrydain, wedi’i hadeiladu’n llythrennol ac yn ffigurol ar dir ansefydlog.
Mae’r darn yn dychmygu Caerdydd ar ymyl llanw’n codi. Dal i adeiladu, dal i anghofio, dal i wthio ymlaen heb edrych yn ôl.
Drwy leisiau gwahanol, mae’r perfformiad yn gofyn: Beth sy’n digwydd i ddinas sy’n anghofio o ble y daeth? Pwy sy’n cael ei gofio pan fydd y dyfroedd yn codi?
Nid codi ofn yw hwn, ond dydd barn. Mae poblogaeth Caerdydd wedi tyfu o 1,800 ym 1801 i dros 370,000 heddiw, yn aml ar draul cof, treftadaeth a rhagwelediad. O dan sylfeini hynafol y castell mae olion lagwnau, rhewlifoedd a llifogydd sydd wedi llunio’r tir ers miloedd o flynyddoedd. Nawr, gyda lefelau’r môr yn codi, mae un o bob saith eiddo yng Nghymru yn wynebu perygl llifogydd; yng Nghaerdydd yn unig, mae’n bosibl y bydd 33,000 o gartrefi wedi’u heffeithio erbyn 2050.
Mae Tidal City yn cynnig lle i wynebu’r dyfodol ansicr hwn—trwy atgofion, mythau, a llais y tir ei hun.
//
“What’s the Wifi Passowrd?” by Rachel Greer

“What’s the WiFi Password?” yn ddarn dawns unigol sy’n archwilio cysylltiad, unigrwydd, ac llethchwithdod bywyd modern trwy hiwmor, theatr gorfforol, a symudiad. Mae’r gwaith yn adlewyrchu’r “oedi” cymdeithasol rydyn ni’n eu profi wrth geisio cysylltu mewn byd perfformiol, rhanedig.
Mae’r darn yn gofyn: sut olwg sydd ar gysylltiad mewn gwirionedd heddiw, a pham ei fod mor anodd? Mae’n archwilio’r ymdrech o geisio cael eich gweld a’ch deall, yn enwedig mewn mannau ar-lein neu ynysig, heb gynnig atebion hawdd — ac yn lle hynny yn enwi’r bylchau, y problemau, a’r ymdrechion parhaus i estyn allan.
Yn swreal, yn ddoniol, ac yn adnabyddadwy, mae’r darn yn gwahodd cynulleidfaoedd i chwerthin gyda’r perfformiwr, gan adlewyrchu’r realiti rhyfedd, dynol o fod eisiau cysylltiad ond heb wybod bob amser sut i ofyn amdano.