Ges i’r fraint o gael tatŵ gan Lorna ( @0lutatt0 ), efo dyluniad dwi wedi bod yn meddwl amdano ers dros chwe mis.
Seren wyth-pwynt Susan Williams-Ellis— yn eistedd rwan ochr yn ochr â fersiwn Lorna o The Star gan Pamela Colman Smith.
Wedi’w hysbrydoli a’i dysgu i raddau gan yr artist Eleanor Brooks, i cal stiwdio a sioe yn Llundain, mai mor dalentog ac yn mynnu sylw i ddeud gwir. Y gwen fwya llachar mewn unrhyw sdafall. Mae gan Lorna gysylltiad cryf efo’r ardal hefyd – gathi fagu jyst lawr y lôn o Blas Brondanw, a hitha wedi gweithio yna am flynyddoed so oddi’n brofiad bendithiol a phersonol i’r ddwy o ni. Hogan prysur a hogan clyfar x