Mae bellach yn bum mlynedd ers i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi ein dogfen weledigaeth ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg’ ac mae’n dair blynedd ers i’r Llywodraeth gyhoeddi ei strategaeth ar gyfer cyrraedd y targed hwnnw.
Roedd tri amcan yn perthyn i weledigaeth y Gymdeithas o filiwn o siaradwyr Cymraeg a gyhoeddwyd yn 2015, sef gofyn i’r pleidiau ymrwymo i’r canlynol:
Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn
Atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i’w cymunedau
Defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd
Ers datganoli, mae nifer o strategaethau iaith digon clodwiw wedi eu mabwysiadu gan lywodraethau datganoledig, ond wedi mynd yn angof wedi hynny. Ar y cyfan, methiant fu hanes y polisïau a’r strategaethau iaith datganoledig hyn.
Mae cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol am y methiant hwn, gan gynnwys y neo-ryddfrydiaeth remp sy’n cael ei derbyn bron â bod yn ddi-gwestiwn yn ein disgwrs cyhoeddus. Un arall yw’r ffaith bod y Gymraeg wedi ei thrin fel eithriad i brif ffrwd gweinyddiaeth a bywyd cyhoeddus Cymru; fel iaith ymylol, symbolaidd yn unig i’w thrin yn docenistaidd.
Nid oes angen edrych ymhellach na’r trafodaethau yn ein Senedd genedlaethol ein hunain i weld, a chlywed yn glir, bod ein bywyd cyhoeddus yn un sy’n cael ei gynnal bron â bod yn uniaith Saesneg. Senedd lle clywir yn aml rai’n dadlau nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol, ac yn wir ei bod yn allgáu. Heb os, nawr yw’r amser i herio’r camsyniad peryglus hwn, a hynny ar frys.
Dros y misoedd diwethaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymgynghori â phobl o bob rhan o’r wlad o ran eu barn nhw ar sefyllfa’r Gymraeg, a strategaethau iaith y Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus. Mae llawer o’r bobl rydyn ni wedi ymgynghori â nhw dros y misoedd diwethaf wedi mynegi awydd i’r Llywodraeth nesaf ganolbwyntio ar gyflawni miliwn o siaradwyr: amcan sydd wedi ennyn consensws ar draws y pleidiau gwleidyddol a’r gymdeithas sifig.
Wedi tair blynedd o anelu fel gwlad at y nod hwn, mae consensws nad yw gweithredoedd y Llywodraeth genedlaethol bresennol ac awdurdodau eraill yn ddigonol er mwyn ei gyflawni. Mae perygl felly yr ail-adroddwn hanes strategaethau iaith flaenorol o addo llawer ond methu cyflawni, a hynny er gwaethaf cefnogaeth gref y cyhoedd.
Ffyddiog
Mae gweledigaeth newydd Cymdeithas yr Iaith, ‘Mwy na miliwn ‒ Dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’, fydd yn cael ei lansio mewn trafodaeth ar-lein nos Lun Gorffennaf 27, yn ymgais i ddadansoddi ac adeiladu ar y consensws, gan amlygu cyfleoedd i fynd ymhellach ac yn gyflymach, gan ddyfnhau ac ymestyn y weledigaeth wreiddiol.
Wrth edrych ymlaen, mae’r Gymdeithas yn gwbl hyderus, os yw’r Llywodraeth nesaf yn fodlon dilyn y llwybr cywir, y caiff targed o filiwn o siaradwyr ei gyrraedd, erbyn 2050 fan hwyraf.
Gan ein bod yn ffyddiog y gall Llywodraeth nesaf Cymru gymryd y camau iawn i gyrraedd miliwn o siaradwyr, credwn y dylai’r Llywodraeth gyflwyno agenda ‘mwy na miliwn o siaradwyr’ er mwyn normaleiddio’r Gymraeg fel priod iaith ein cenedl ymhob agwedd ar fywyd.
Nid yw agenda ‘mwy na miliwn’ yn cyfeirio’n bennaf at dargedau ar gyfer creu mwy na miliwn o siaradwyr (er bydd angen canolbwyntio ar hynny yn ogystal) ond yn hytrach at ddyfnhau’r agenda drwy ganolbwyntio ar ddefnydd bob dydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau, ein gweithleoedd a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig.
Yn ein gwaith ymgysylltu, mae nifer o bobl wedi cyfeirio at y rhwystrau sy’n wynebu rhai grwpiau rhag cael mynediad at yr iaith — gan gynnwys rhwystrau daearyddol, economaidd, gwybodaeth neu ddosbarth cymdeithasol. Dyna sy’n ein harwain i alw’n ogystal am ‘ddinasyddiaeth Gymraeg i bawb’ er mwyn sicrhau bod pawb, yn ddieithriad, yn cael dysgu, profi a defnyddio’r Gymraeg mewn modd ystyrlon yn eu bywydau beunyddiol.
O’r ffoadur sydd newydd ddod i’n gwlad, y gymuned hirsefydlog o Ddwyrain Ewrop, i’r glanhäwr mewn ysgol Gymraeg, nid yw’r strwythurau na’r polisïau ar waith i sicrhau bod gan bawb fynediad ystyrlon i ddysgu, mwynhau a defnyddio ein hiaith genedlaethol.
Mae’r patrwm hwn yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol mae’n rhaid ei daclo ‒ mae angen estyn dinasyddiaeth Gymraeg i bawb sy’n gweld Cymru fel cartref iddynt, nid rhai yn unig. Yn yr oes ôl-Covid, gyda methiant y gyfundrefn economaidd bresennol a thwf yr adain dde eithafol, mae nawr yn amser pwysicach nag erioed i gynnwys pobl o bob cefndir yn y Gymraeg ‒ y Gymraeg fel arf dros undod yn erbyn gwleidyddiaeth cynyddol adweithiol.
Tanseilio
Diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yw ochr arall y geiniog hon; dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol. Ac felly mae Cymry Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg fel ei gilydd o dan yr argraff bod cynnal gofodau ‒ o gymunedau daearyddol, i weithleoedd i ddigwyddiadau ‒ sy’n uniaith Gymraeg yn annerbyniol. Mae sicrhau gwir fynediad i’r Gymraeg i bawb yn hanfodol felly fel rhan o’r gwaith o gynyddu nifer y gofodau lle mai’r Gymraeg yw’r cyfrwng iaith arferol.
Mae’r Llywodraeth nid yn unig yn methu o ran cefnogi ymdrechion i greu a chynnal gofodau uniaith Gymraeg, mewn nifer o feysydd mae’n fwriadol ac yn anfwriadol yn eu tanseilio ‒ o’r diffyg hawl i staff atodol ysgolion Cymraeg gael amser ac adnoddau i ddysgu Cymraeg i’r ymgais i ddarbwyllo’r Llyfrgell Genedlaethol i beidio dynodi Cymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd y Llyfrgellydd Cenedlaethol, sef un o’r sefydliadau llawer rhy brin sy’n gweinyddu’n fewnol yn y Gymraeg.
Nid oes gwir gydnabyddiaeth gan wleidyddion na sefydliadau cyhoeddus o’r gwahaniaeth ansoddol anferth mae gofodau uniaith Gymraeg yn ei wneud o ran cynyddu defnydd yr iaith, ei normaleiddio a chreu siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae’r agwedd hon yn ymestyn at y difaterwch rydym yn ei weld tuag at sefyllfa fregus rhai o’n cymunedau lle mae cyfran helaeth yn siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio fel iaith feunyddiol. Nid oes cydnabyddiaeth ystyrlon o werth y Gymraeg fel prif iaith bywyd bob dydd, ac nid oes chwaith fesurau economaidd-gymdeithasol ar waith i fynd i’r afael â’r problemau strwythurol sy’n gyrru allfudiad pobl ifanc, dirywiad yr economi leol a cholli adnoddau cymunedol.
Drwy ganolbwyntio ar yr agenda ‘mwy na miliwn ‒ dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’ a amlinellir yn ein dogfen weledigaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, gellir sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn iaith bywydau beunyddiol pawb yn ein gwlad, o bob cefndir.
Gyda’r etholiad nesaf yn dod wedi ugain mlynedd o ddatganoli, mae’n hen bryd cymryd y cyfle i ddangos sut gall hunanlywodraeth wneud gwir wahaniaeth. Byddai cofleidio a gwreiddio dinasyddiaeth Gymraeg i bawb yn mynd ffordd bell tuag at adeiladu’r Gymru yr hoffem ei gweld: gwlad lle mae pob un ohonom, a phob cymuned, ar seiliau cadarn tuag at ddyfodol cynaliadwy, cyfiawn a Chymraeg.
Bydd lansiad dogfen weledigaeth Cymdeithas yr Iaith ‘Mwy na miliwn ‒ dinasyddiaeth Gymraeg i bawb’ nos Lun y 27ain o Orffennaf am 6:30yh mewn digwyddiad digigol. Manylion yma.