Cartref digidol diwylliant Cymru.

Am

Cyhoeddi trydedd Gronfa Fideos PYST x S4C

An image of a blue sky and rural landscape with PYST and S4C's logos in white

Ar Ddydd Gwener Mai 9fed, mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam, bydd cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST yn lansio trydedd rownd eu cronfa fideos ar y cyd gyda S4C.

Ffurflen gais ar gael yma.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda owain@pyst.net.

Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid neu gyfarwyddwyr newydd oedd heb greu fideo gerddoriaeth Gymraeg o’r blaen. Mae hyn wedi sicrhau twf yn niferoedd fideos Cymraeg sydd yn cael eu creu yn ogystal â gweld artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir yn ymwneud â diwylliant Gymraeg am y tro cyntaf. Yn ystod dwy rownd flaenorol y Gronfa ariannwyd 30 fideo newydd. Mae modd gwylio’r holl fideos ar broffil y Gronfa ar Am.

Bydd y drydedd Gronfa yn ariannu 20 fideo arall a derbynnir ceisiadau o heddiw ymlaen. Mae’r ffurflen gais ar gael yma!

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf: “Mae wedi bod yn bleser mwynhau gweledigaeth a chyffro’r fideos hyd yma. Nid yn unig maent wedi bod yn adnodd marchnata hanfodol i senglau yn cael eu rhyddhau ond mae hefyd wedi agor drysau i artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir a chymuned ymwneud â cherddoriaeth Cymraeg, gan ychwanegu at amrywiaeth a chyfoeth ein byd cerddorol.”

Dywedodd Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adlonaint Ffeithiol S4C: “Mae’n bleser llwyr i S4C gefnogi’r gronfa unwaith eto. Mae’r creadigrwydd a chydweithio sydd wedi ei ddangos dros y blynyddoedd diwethaf yn destament i angerdd artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru – ac mi ydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld talentau newydd yn cael cyfle eto eleni.”

RHANNWCH