Cartref digidol diwylliant Cymru.

Theatr Bara Caws

Sefydlwyd cwmni theatr cymunedol Bara Caws dros ddeugain mlynedd yn ôl er mwyn diwallu’r galw am theatr broffesiynol yn y gymuned Gymreig, i’r gymuned Gymreig.
Mae cymeriad cwbl nodedig i’r Cwmni ac ’rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth unigryw i gynulleidfaoedd ar lawr gwlad gan ddod ag adloniant, cyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon cymunedau Cymru. Mae rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosib fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau ar garreg y drws yn greiddiol i’n hethos ers y dechrau’n deg, ac ymfalchïwn mewn cyflwyno rhaglen amrywiol sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Mae dwy agwedd i’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol: parhau â’r gwaith o gyfoethogi a herio ein cymunedau, a sicrhau cenhedlaeth newydd o ymarferwyr creadigol a gwneuthurwyr theatr i alluogi’r etifeddiaeth hon i oroesi.

Cynnwys