Mae’r ddeuawd ôl-roc Right Hand Left Hand yn ôl gyda’u trydydd albwm ac ail enwebiad Gwobr Cerddoriaeth Gymreig. Mae ‘Zone Rogue’ yn adrodd hanes dirmyg y ddynoliaeth dros y ddaear, yr aer a phobl, gyda phob un o’i 11 trac yn cyfeirio at leoliad ar y ddaear lle mae rhywbeth drwg wedi digwydd.