Cartref digidol diwylliant Cymru.

DYCHMYGUS | IMAGINE: Tic Toc

Fel arfer, am 10 o’r gloch bob bore Gwener, mae’r Gwndwn yn Theatr Felinfach yn llenwi gyda phlant bach (0-3) a rhieni/gwarcheidwaid yn barod ar gyfer awr o sbort a sbri yn ein sesiwn Tic Toc! Mae Lowri a Sioned yn gweld eisiau pawb yn fawr, felly dyma sesiwn Tic Toc fer ar gyfer plant bach i gymryd rhan gartref! Os ydych chi’n gwylio, gadewch neges gyda’ch enw i ni weld! Mwynhewch!

Tic Toc – 1

Tic Toc – 2

Dyma sesiwn TIC TOC arall i’r plant fwynhau gartref gyda Lowri a Sioned! Mi fydd angen arnoch ar gyfer y sesiwn os yn bosib (peidiwch â phoeni os na!):
– Sosban a llwy
– Sgarff/darn o ddefnydd ysgafn/casyn gobennydd
Mwynhewch!

RHANNWCH