Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ffenest Cyfranddaliadau Ar Agor

CerddoriaethCymuned

Mae’r amser wedi dod i’r label unigryw yma fynd ar drywydd newydd. Mae Fflach bellach wedi dod yn Fflach Cymunedol, yn label recordiau ar newydd wedd. Byddwn yn dal i wasanaethu’r gymuned y mae’r cwmni wedi erioed, ond gyda strwythr newydd a gorwelion newydd.

Fel cymdeithas budd cymunedol, byddwn yn rhydd i godi arian trwy grantiau cymunedol, gan ein galluogi i barhau i feithrin talent newydd, i weithio gyda chymunedau, ac i fod yn gartref cryf ac yn lais i fandiau ac artistiaid Gorllewin Cymru. Mae’r ail-strwythuro yma hefyd yn golygu ein bod yn estyn croeso o’r newydd i aelodau i ymuno â’r cwmni. Mae hwn yn ffordd i godi arian i’r fenter newydd, ond hefyd yn gyfle i gynull lleisiau adnabyddus, a lleisiau newydd i’r sgwrs am waith a dyfodol Fflach Cymunedol.

I ymaelodi, gallwch brynu cyfranddaliadau (shares) yn y gymdeithas am cyn-lleied â £50, gan eich galluogi i fod yn rhan o’r daith.

Gallwch ddarllen am ein gweledigaeth, dysgu mwy am y gymdeithas budd cymunedol a’r stori hyd yma, ac ymaelodi trwy fynd i’n gwefan fflach.cymru.

I ymaelodi ar-lein, cliciwch ar y ddolen yma https://forms.gle/7Df8sHbUUzvM9trR7

RHANNWCH