Cartref digidol diwylliant Cymru.

Bàrd, File, Bardd : Ifor Ap Glyn – Seanfhocal an lae

Llenyddiaeth

Cywaith barddoniaeth digidol newydd yw Bàrd, File, Bardd ble mae beirdd o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wedi dod ynghyd i rannu ac archwilio cysylltiadau a dynameg ieithoedd Gaeleg yr Alban, Cymraeg a Gwyddeleg. Mae’r teitl yn cyfuno’r gair am ‘bardd’ yn y tair iaith dan sylw.

Penllanw’r cydweithrediad yw casgliad o naw cerdd fideo newydd sy’n archwilio themâu cyfoes a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan dri bardd, un o bob gwlad.
Y beirdd sy’n cydweithio ar y prosiect yw Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Awdur Preswyl Prifysgol Dinas Dulyn a Llysgennad Áras na Scríbhneoirí Ciara Ní É, a’r awdur, darlledwr a darlithydd ym Mhrifysgol St Andrews Pàdraig Mac Aoidh. Yn ystod eu cydweithrediad, mae’r tri bardd wedi archwilio gwahanol safbwyntiau ar ieithoedd Gaeleg yr Alban a Gwyddeleg a Chymraeg. Mae eu gwaith hefyd yn archwilio hunaniaethau a sut mae’r ieithoedd hyn yn parhau i esblygu ac addasu i’r byd modern.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru a Scottish Poetry Library, ac mewn cydweithrediad ag Yr Egin a Poetry Ireland.

RHANNWCH