Rhoddodd Eirlys Parri fywyd newydd i gerddoriaeth Gymraeg yn 1970. Un o Forfa Nefyn oedd hi a dechreuodd ganu mewn eisteddfodau lleol a gyda’r grwp Lleisiau’r Llwyn. Cafodd gyfle i ganu ar Disc a Dawn ac yn fuan recordiodd senglau i label Tŷ ar y Graig ac yna i Sain. Meddai Dafydd Iwan amdani ar glawr un o’i recordiau cynnar: “Meddyliwch am arfordir gogleddol Llŷn, y môr yn torri ar draeth Morfa Nefyn, bloau’r grug ar y mynydd uwchlaw a chri’r gwylanod ar y gwynt. Mae caneuon Eirlys yn cyfleu’r cyfan hyn a mwy a’i llais yn llawn o ramant hiraethus y mor a’r mynydd.
Cafodd Eirlys yrfa gerddorol lwyddiannus a ymestynodd drwy’r 70au a’r 80au. Cyhoeddodd dair record hir, yn cynnwys clasuron fel ‘Yfory’ a chafodd ei chyfres ei hun ar S4C.