Cartref digidol diwylliant Cymru.

Recordiau Jigcal Records

Sefydlwyd Recordiau JigCal yn 2011 i rhyddhau LP olaf Sibrydion – Uwch Ben Y Drefn. Ers hynny, ma Recordiau JigCal wedi mynd ati i gydweithio gyda llu o artistiad amlwg yn y sin Gymraeg fel Mellt, Cadno, Hyll, Wigwam, Mei Gwynedd ac Aled Rheon.
Yn ôl rheolwr y label, Mei Gwynedd – dau brif nod y label yw cydweithio gyda bandiau ifanc i gyrraedd potensial uchaf y cerddorion, a gweithio gyda ambell artist fwy profiadol i sicirhau eu bod yn cael sylw ar holl blatfformau modern y byd digidol Cymru a thu hwnt. Mae’r label yn cael ei redeg o Gaerdydd, law yn llaw gyda Sdiwdio JigCal. Anfonwch eich demos neu ymholiadau gigs i recordiaujigcal@hotmail.com

Cynnwys