Ers 2007, mae Gwyl LHDT+ Iris Prize wedi rhannu ffilmiau anhygoel yng Nghymru a thu hwnt. Yn gartref i wobr ffilm fer LHDT+ mwyaf y byd, mae’r wyl flynyddol yng Nghaerdydd yn dathlu ffilmiau cwiyr gorau y byd. Mae Gwobr Iris hefyd yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn dros y Deyrnas Unedig i gyd, gyda gwyliau, dangosiadau a phrosiectau sy’n gweithio gyda ysgolion dros Gymru a chefnogi disgyblion i greu ffilmiau byrion LHDT+ eu hun.





