Cartref digidol diwylliant Cymru.

24:24/20 | Hollt y bore – Ffion Morgan

Llenyddiaeth

Cerdd gan Ffion Morgan yw ugeinfed cyfraniad Her 24:24 Y Stamp x Llenyddiaeth Cymru. Mae ei cherdd yn ymateb i ‘Dau’, cerdd a chyfres o ddelweddau gan Rhiannon M. Williams. Gallwch ddysgu mwy am 24:24 yma.

Cerdd sy’n cyfleu’r tristwch yr annhegwch ond hefyd yn ceisio cyfleu’r weledigaeth bod yna newid ar y gorwel …

Hollt y bore

Ein henglynion sy’n flêr
dros darth y bore,
a’r dweud sy’n miniog naddu
drwy gwsg y niwl.

Ac mi welwn
trwy dwll y clo …
awch y bore bach yn dyfod …

Yno, rhwng cyfarchion y gwenoliaid
a sisial taith y dail,
mae hen belydrau ddoe yn gwywo,
a phelydrau heddiw’n dihuno

gan adael i’r ing a’r angau,
frathu craciau’r stryd.
A dagrau hallt yr anhrefn
yn dal i wlychu’r boen.

Ond …

Yno am ennyd …
magma’r enaid sy’n ffrwydro’r
nodau byw am newid
a’n ffydd sy’n gludo i’r awel
gan grisialu a malu ein ffiniau
ac atalnodi’r hyn sy’n bod.

Hwn yw’r weledigaeth
sy’n dechrau hollti ddoe …

a
glynu
at
y bore bach …

—–

Bardd o Aberteifi sy’n mwynhau ysgrifennu cerddi rhydd yw Ffion Morgan.

RHANNWCH