Anest
dwi’m yn cofio lot am yr wsos achos o’n i’n ffocd rhanfwya o’r amsar.
Dwi’n cofio cyrradd ia, a ciwio. odd sdeddfod yn y gogledd go iawn am y tro cynta ers fatha 100 blwyddyn so odd pawb ’di mynd ag odda ni’n goro ciwio am ages. o’n i’n ciwio efo Hi a genod erill odd Hi yn nabod o ysgolion erill, genod o’n i mond ’di gweld o blaen ar mystorys Hi. neshi sylwi ar lisa blwyddyn 10 yn edrych tha slyt oflaen ni yn y ciw, efo crop top yn dangos piyrsing yn botwm bol hi, legings gymshark odd probabli seis rhy fach ac yn rhoid ffwc o weji iddi hi a eyelashes ffêc yn neud i gwynab hi edrych tha plastig. oddi’n ddel ddo, ’fo llgada glas masif yn edrych fatha fod nw’n trio llyncu gwynab hi a highlights blond hi mewn cyrls perffaith. oddi’n edrych felna trw’r wsos fyd, dwi’n meddwl, no aidia sud. ella gen y genod dela sy efo’r mwya o followers ar instagram tent sîcryt llawn meicyp artists i fynd i cyrlio gwalld nw a shit.
o’n i’n nabod gwynab yr hogyn odd lisa efo achos odd o’n 6th form fatha fi a Hi, yn ysgol arall, ond odd o’n edrych lot hŷn ia. odd o oleia six foot a ’di tyfu biyrd trwchus. dwi’n cofio gobithio’n ddistaw bach idda nw bidio gadal lisa fewn achos odd hi’m yn sicstîn, yn meddwl fysa fo
’di bod yn hileriys gweld y siom yn meltio’r meicyp a’r plastig ar gwynab hi, ond dwi’n siŵr odd syciwryti ddim isho troi hi ffwr, na, hogan ffit a del fatha hi.
Osian
Mae Osian ac wyth o hogiau eraill yn eistedd mewn pabell i bedwar, ond prin
gall o weld yr hogyn sy’n eistedd wrth ei ymyl oherwydd trwch y mwg yn y babell, neu efallai mai’r mwg sy’n tyfu’n galed fel cen dros ei feddwl sy’n twyllo’i lygaid. Dychmyga’r babell yn ffrwydro o dan eu pwysau, y naw ohonyn nhw’n llifo o’r rhwygiadau fel pỳs yn diferu’n araf o bloryn. Mae’r darlun hwnnw’n gwneud iddo chwerthin nes bod ei fochau’n brifo a’i stumog yn rowlio’n ddiddiwedd.
Neidiant o un gymuned fyrhoedlog o bebyll i’r llall gan ychwanegu llun a fideo neu ddau at eu storïau ar Snapchat: fideo o Dafydd Prys yn disgyn ar babell merched o Gaerdydd wrth ddownio peint; un arall o Elan Rhiannon Jones yn sgrechian i fewn i gamera ffôn Osian, yn honni ei bod hi wedi pi-pi yn niod Rhys Palmer. Bydden nhw’n dileu’r rhan fwyaf o’r storïau’n frysiog ar ôl deffro yfory, gan obeithio mai dim ond meddwon a welodd y selfie awgrymiadol a’r fideo o ddieithryn yn chwydu a bostiwyd am dri o’r gloch y bore.
Maen nhw’n llithro ar sidan awyr y nos ac yn baglu dros risiau’r sêr wrth ddringo’r anfeidrol, yn erfyn am gael cyrraedd y Man Hwnnw a fydd, yn eu tyb nhw, yn gorlenwi pob gwacter ym mreuddwydion bas eu hieuenctid.
Ond mewn llannerch o bebyll newydd sbon, y dafodiaith estron yn bwydo’r cyffur sy’n gwledda ar ei ymwybod, y mae Osian yn ei weld o.
Anest
ffoc odd Hi’n sdyning ’fo meicyp. odd Hi’n sdyning heb fyd ia, ond efo
– odd sbio arna Hi’n brifo.
gwalld Hi’n troi jysd digon rownd gwddw Hi i neud idda fo edrych fatha tonna’n dechra torri ar ben croen Hi. ag odd gwalld Hi’n hir fyd, bron at botwm bol Hi. sgenna fi’m syniad sud nath Hi gadw fo mor biwtiffyl yn campio. neshi anghofio gofyn.
odd yr eyeshadow pinc rownd llgada Hi’n neud nw’n wyrdd fatha gwair yn gwanwyn, fatha gwair newydd sbon yn bora rôl glaw drw nos. a dodd Hi ddim yn gwisgo foundation achos o’n i’n gallu gweld bob un o ffrecyls Hi, dros trwyn Hi a bocha Hi a gwddw Hi. withia o’n i’n gallu gweld nw ar croen chest hi fyd, dibynnu ar dillad Hi. odd Hi bob tro’n deud bod Hi’n heitio bod yn jinjyr ond dwi hebdi gweld neb yn y byd efo gwalld fatha Hi, gwalld fatha machlud yn llosgi
trw cmyla.odd genna Hi braces adag yna fyd, sy’n ciwt wan yparentli, ers i lois awen ysgol dre rhoid profile pic newydd ar facebook o hi’n gwenu efo braces hi gyd yn dangos.
nathyni dangos driving licence ni i’r bois syciwryti a dangos y ticedi ar ap ar ffôns ni. dwi’n cofio nw’n ffindio fodca Hi yn y potal dŵr ond ddim yn ffindio potal fi yn y bocs pringles. dwi’n cofio ni’n ffindio rwla yn y cae odd ddim yn rhechu o dan welis ni i roi tent fyny. wrth ymyl pobol o sir fôn, dwi’n meddwl. odd cymraeg nw’n well na ni yn y ffor ma cymraeg taid yn well na plentyn bach pump oed. sorri ond sa well genna fi swndio fatha kid bach cyn dysgu be ffwc ma hwyth a siort ora yn feddwl. dad Hi odd bia’r tent. ffitio pedwar person i fod, ond wsos yna odd o barely’n ffitio dau hogan a alcohol. o’n i hebdi campio o blaen achos ’di mam methu imajynio cysgu heb ensuite a gola call i roid eyeshadow bobbi brown hi ar. ’di dad byth isho mynd yn erbyn mam a ma alys chwaer fi beisycli fatha mam heb anti-aging cream a pencil skirt. ffs. withia ma hi fatha gal mam arall yn lle chwaer bach.
o’n i methu disgwl timlo’r gwair trw llawr polyester y tent a ogla’r haul yn trio meltio to’r tent yn bora. o’n i isho clwad adar yn cysgu fyd, a gwynt yn cal ffeit efo’r tent ganol nos ond odd hynna i gyd yn cal i boddi gan synna y sesh. chwerthin tew a sgrechian sdici a geiria ’di chwyddo fatha ancl elin ysgol bryn ar ol i hi ddisgyn dros rhwun arall odd ’di disgyn drosodd. wsos yna o’n i dal hebdi sylwi fod bod yn copy a paste o pawb arall yn neud fi’n dipresd so o’n i ’di dod â camra polaroid fi fatha’r genod erill. un pastel pink. ych. erbyn ŵan dwi ’di lluchio fo at alys, ond odd o’n edrych yn dda ar instagram fi drws nesa i’r afocados a cloria lliwgar llyfra dwi byth ’di darllan.
neshi gal llynia o Hi syth ar ôl ni orffan rhoid y tent i fyny at last. o’n i isho cal llun adag yna achos odd yr haul ’di dechra mynd lawr ac yn rhoid gwalld Hi ar dân pan odd Hi’n sefyll o flaen o. neshi gal un ohona Hi’n trio connectio portable charger efo ffôn Hi yn y tent. dwi’m yn meddwl odd Hi’n gwbod neshi gal y llun yna. dwi’n cofio odd y llun dal heb ddod trwodd, y cysgodion dal yn buta gwynab Hi ar y polaroid pan neshi rhoid o yn bumbag urban outfitters fi yn cwic.
Am yr awdur:
Bydd Megan Angharad Hunter yn dechrau cwrs gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth ym mis Medi 2019.
Darllenwch weddill y stori arbennig hon, a llawer mwy o waith creadigol, ar wefan O’r Pedwar Gwynt
Dim ond £10 y flwyddyn i danysgrifio! https://pedwargwynt.cymru/cyfansoddi/gol/maes-b
–