Mewn sgwrs wedi ei chadeirio gan Jo Frost, Golygydd Songlines, mae Lisa Jên o 9Bach (Cymru), Gareth Bonello The Gentle Good(Cymru), Brìghde Chaimbeul (Yr Alban) a ShoShona Kish (Canada) yn trafod coloneiddio, newid hinsawdd, cerddoriaeth a ieithoedd brodorol yng nghyd-destun Covid-19, ac yn edrych ymlaen tuag at Ddegawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO.
Wedi’i gynhyrchu gan Neuadd Ogwen ac ar y cyd â gŵyl newydd ieithoedd brodorol Neuadd Ogwen, Gŵyl Mawr y Rhai Bychain, a’r Rhwydwaith Cerddoriaeth Gynhenid y Byd.
Mae’n ddwy flynedd ers i ShoShona Kish ennill y Wobr Rhagoriaeth Broffesiynol yn WOMEX 18, ac yma yng Nghymru rydym yn parhau i gael ein gwefreiddio a’n hysbrydoli gan yr araith bwerus a roddodd pan dderbyniodd y wobr .
Gwelwyd cyfarfod agoriadol Rhwydwaith Cerddoriaeth Gynhenid y Byd yn WOMEX 18 hefyd, ac edrychwyd ymlaen at Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO yn 2019: mae’r digwyddiadau hyn yn ffibrau o’r edau y mae naratifau newydd yn cael eu gwehyddu â hwy ar gyfer Cymru a’r byd heddiw.
Mae’r video hwn yn rhan o bresenoldeb Cymru yn WOMEX 2020. Mae 3 artist yn perfformio fel rhan o Horizons yn WOMEX eleni: The Gentle Good, N’famady Kouyaté a Lisa Jên o 9Bach. MWY.