Enw | Name: Sean Chambers
Dyddiad geni | Date of Birth: 20/04/1978
Ganwyd yn | Born in: Chester
Byw yn | Living Now: Tywyn, Gwynedd
Ffaith diddorol am eich hun | Interesting fact about yourself: Tad i 6 – wastad wedi blino!
Dywedwch dipyn am eich hun. Beth yw eich cefndir a beth ydych chi’n gwneud? E.e. gwaith, diddordebau
Dwi’n gweithio llawn amser fel arlunydd. Mae rhan fwyaf o fy ngwaith yn llawrydd ar gyfer y diwydiant morwrol, yn gwneud lluniau o gychod a golygfeydd. Mi faswn i’n hoffi gallu gwneud mwy o gydbwyso gyda fy mhrosiectau ysgrifennu. Mi faswn i’n hoffi gwneud llyfr o gerddi gwirion! Tan ‘chydig o flynyddoedd y ôl roeddwn yn rhedeg cwmni tirlunio.
Pwy/beth wnaeth eich ysbrydoli i ‘sgwennu?
Dwi wastad wedi bod eisiau creu cerddi gwirion i gyd fynd a fy ngwaith celf. Daeth y cyfle i arbrofi gyda fy ngwaith ‘sgwennu pan roedd gen i chwech o blant ifanc i’w diddori. Dechreuais gymryd pethau o ddifri’ pan wnes i sylwi bod nhw wrth eu boddau! Mi roddais y straeon, oedd yn fy mhen, i lawr ar bapur tua tair blynedd yn ôl. Roeddwn yn ddigon ffodus i ffeindio asiant sy’n fy helpu i wneud newidiadau a meddwl am fy nulliau.
Pa lyfrau/awduron wnaeth ddylanwadu arnoch pan yn blentyn?
Doeddwn i ddim wir yn ddarllenwr mawr pan oeddwn i’n ifanc. Byddai’n cymryd llyfr penodol iawn i ddal fy sylw. Dwi’n cofio bod yn obsessed gyda gwaith Spike Milligan. Roeddwn i’n hoffi’r cymysgedd o farddoniaeth, dyddiaduron a straeon byrion.
Be sy’n gwneud llyfr da?
I mi, mae’n ddihangfa. Mae’n rhaid i mi allu dychmygu fy hun yn rhan o’r stori. Mae llyfrau am y môr neu mynydda wastad yn llwyddo i’m denu – ffuglen neu ffeithiol.
Beth yw eich llyfr diweddara’ i blant? Dwedwch dipyn wrthym am sut daeth y llyfr i fodolaeth.
Y llyfr sy’n cael ei ryddhau ar 24ain o Dachwedd gyda Atebol yw Michewa a’r Mynydd. Datblygodd fel llyfr llun a stori draddodiadol pan oeddwn yn gweithio ar lyfrau plant heb eiriau. Cadwais rhai o’r lluniau ac addasu’r stori. Dwi’n gobeithio bydd yn annog pobl i edrych yn agosach ar y lluniau. Mae’r llyfr i fod yn ‘less than the sum of it’s parts’. Gyda hynny, golygaf bod o’n stori syml, ond un sy’n ennyn empathi wrth i’r stori drafod emosiynau fel balchder, edifeirwch ac unigrwydd. Mae’n cyflwyno agweddau o amgylchedd y mynydd hefyd.
Unrhyw tips i artistiaid ac ysgrifenwyr ifanc?
Mae’n edrych i mi fod hi’n beth cyffredin i annog artistiaid ifanc i ffocysu eu sgiliau drwy ddefnyddio cyfeiriadau. Dwi yn cytuno gyda hyn. Dwi’n meddwl fod yr un peth yn wir o ysgrifennu. Ymarferwch drwy dynnu sylw at brofiadau, pobl neu bethau a llefydd cyfarwydd yna defnyddiwch eich dychymyg i’w haddasu. Mae dychymyg yn wych, ond dychymyg gyda’i wreiddiau mewn realiti sy’n gwneud y straeon gorau. Hefyd, fe wnaeth ysgrifennu barddoniaeth fy helpu gyda ysgrifennu llyfr stori i blant. Dwi’n meddwl ei fod yn helpu gyda llif y stori gan gadw brawddegau yn fyr ac yn bwrpasol ond yn ddisgrifiadol hefyd. Mae pawb yn gallu, a dylai pawb ysgrifennu cerddi!
Yr ysgrifen neu’r lluniau sy’n dod gyntaf?
Mae stori fel arfer yn tyfu o un llinell neu bennill. Mae plot cyffredinol yn esblygu yn fy mhen ac mae gen i ddrafft cyntaf erbyn i mi roi pin at bapur. Dwi’n gweithio ar lyfr ar hyn o bryd ac mae’r stori gyfan wedi dod o un linell:
‘The sea turned from sage to black’.
Tra dwi’n gweithio ar y drafft cyntaf dwi fel arfer yn datblygu syniadau am gymeriadau a thudalennau. Dyma fy hoff ran o wneud llyfr – y rhyddid i ‘greu.’
Oes na gymeriad ffuglen ti’n ei gasáu?
Mae ‘na ddigon o gymeriadau go iawn dwi’n eu casáu ar y foment!!!!
Unrhyw beth diddorol ar y gorwel?
Dwi newydd orffen llun mawr ar gyfer llong patrôl D-Day sy’n cael ei atgyweirio mewn amgueddfa yn yr UDA. Mae hwn wedi bod yn brofiad diddorol iawn wrth weithio o luniau hanesyddol a disgrifiadau ysgrifenedig, Dwi’n gobeithio gallu rhyddhau dyddiad fy ail gyhoeddiad ymhen ychydig wythnosau. Rydym ni’n gobeithio rhyddhau rhywbryd tua canol 2021. Dwi’n gyffrous am roi’r prosiect yma at ei gilydd fel awdur/arlunydd eto. Mae’n stori sydd wedi bod gen i ers blynyddoedd rŵan a dwi’n meddwl ei fod wedi datblygu i fod yn rhywbeth arbennig. Yn ogystal a’r rhain, mae gen i ambell un ysgrifennu ar y gweill. Dwi’n hoffi symud rhwng barddoniaeth a gwaith rhyddiaith.
Llyfr go iawn neu Kindle?
Llyfr go iawn, heb os!
Wbath arall?
Diolch anferthol i bawb sydd wedi helpu’r llyfr yma ddod i fodolaeth. Diolch i Rachel ac Elgan o Atebol, Cyngor Llyfrau Cymru, fy asiant Abi Sparrow o SP Agency a Manon Steffan Ros am gyfieithu’r stori – a bod ar gael i roi cyngor gwerthfawr! A diolch hyd yn oed yn fwy i fy nheulu, sydd wedi fy nghefnogi ar yr antur hyd yma!