Mae bachgen yn chwarae yng nghwmni’i fam.
Eu gêm nhw yn unig ydy hon.
Maen nhw’n ymgolli yn eu byd dychmygol a does dim byd arall yn bwysig.
Yna’n sydyn, mae’r gêm yn newid.
Ond does neb wedi egluro’r rheolau iddo, a dydy’i fam ddim o gwmpas bellach i’w roi ar ben ffordd…
A hithau’n dilyn taith un bachgen wrth iddo gael ei hyrddio’n annisgwyl o un byd i’r llall, mae Chwarae yn sioe llawn rhyfeddod sy’n trafod pwysigrwydd a hwyl chwarae. I gyfeiliant cerddoriaeth fyw, digon o symud, a chyfle i gyd-chwarae, bydd y cynhyrchiad Cymraeg hwn yn edrych ar sut y gall chwarae ein helpu i oresgyn heriau bywyd.
Datblygwyd Chwarae ar y cyd â Pontio a theuluoedd yn y gogledd drwy raglen Platfform Theatr Iolo.
Oed 4+