Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pontio Bangor

Pontio yw Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015. Mae’r adeilad, wedi ei gynllunio gan y penseiri Grimshaw, yn gartref i Theatr hyblyg, Stiwdio, a Sinema Ddigidol. Mae bwyd a diod ar gael ym Mar Ffynnon a chaffi Cegin. Mae Celfyddydau Pontio yn cynnig pob math o adloniant saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, syrcas gyfoes a theatr awyrol, sioeau cabaret a llawer mwy. Hefyd yn rhan o’r adeilad mae canolfan arloesi o’r radd flaenaf ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys cartref i Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu.

Cynnwys