Cartref digidol diwylliant Cymru.

Le Pub

Organisation Logo

“Ein bwriad yw rhoi gofod creadigol sy’n agored i bawb i bobl Casnewydd. Rydym yn swyno ac ysbrydoli cymuned amrywiol wrth hyrwyddo cerddoriaeth a chelf o bob math. Rydym yn hyb greadigol sy’n gweithredu o galon ein dinas, yn gweithio’n ddiflino i gysylltu cynulleidfaoedd hen a newydd gyda cherddoriaeth byw, celf a sinema wych”

Mae Le Public Space yn ganolfan cerdd a chelf sy’n sefyll yng nghalon dinas Casnewydd, Le Public Space yw’r gofod annibynnol mwyaf ar gyfer y celfyddydau yn y ddinas. 

Agorwyd yr adeilad ar High Street, Casnewydd yn 2017. ‘Le Public Space’ yw’r llythrennau sydd i’w darllen ar flaen y drws, ond tu fewn, mae’r stafell ar gyfer cerddoriaeth byw yn cael ei adnabod fel ‘Le Pub’. Mae’r cyfleusterau newydd wedi’u hadeiladu yn dilyn llwyddiant Le Pub, sef lleoliad gig bach a wnaeth gyflwyno cerddoriaeth byw i bobl Casnewydd ers 1992 tan y diwrnod ail-agorwyd ei ddrysau yn ddiweddarach.

Mae Le Public Space yn eiddo i’r gymuned ac nid er elw. Mae yna raglen lawn o gerddoriaeth byw, celfyddyd, comedi a llawer mwy ac rydym yn gweini bwyd llysieuol a figan hyfryd! Ar hyn o bryd, ry’n ni’n datblygu cynlluniau i ehangu, felly gwyliwch y gofod!


Cynnwys