Athrawes cyfnod sylfaen yng Ngwynedd ydy Emma. Mae iechyd a lles plant o ddiddordeb mawr iddi. Cychwynodd Llifo’n Llawen ar ddechrau’r cyfnod clo i hybu lles emosiynol plant ifanc trwy yoga a meddwlgarwch. Mae hi wedi cymhwyso fel athrawes yoga i blont 3-11 oed. Wrth ymarfer siapiau a thechnegau anadlu gwahanol trwy yoga, gall plant ryddhau egni hapus trwy’r corff a thawelu’r corff a’r meddwl.
Addas i blant a’u teuluoedd.