Cyfrol lawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn 2021. Fe fydd Ha Ha Cnec (Llyfrau Broga) yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol.
Bydd modd prynu copi am £1, neu ddefnyddio’r tocyn llyfr £1 a roddir i bob plentyn gan National Book Tokens i nodi Diwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth 2021.
I ddathlu cyhoeddi’r teitl, mae’r Cyngor Llyfrau yn trefnu cystadleuaeth – ‘Ble yn y byd, Boc?’. Bydd angen i gystadleuwyr ddod o hyd i 150 o gymeriadau o lyfrau plant Cymru sydd wedi eu cuddio gan Huw mewn poster prysur, llawn manylion.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i ysgolion ac unigolion o bob oedran, ac mae gwobrau gwych i’w hennill.
Bydd enillydd categori’r ysgolion yn derbyn pentwr o lyfrau gwerth £150, gyda phentwr o lyfrau gwerth £75 yn ail wobr.
Y brif wobr yn y categori unigol fydd darn gwreiddiol o waith celf gan Huw Aaron a phentwr o lyfrau gwerth £50, gyda phentwr o lyfrau gwerth £25 yn ail wobr.
Gallwch gystadlu drwy fynd i wefan www.mellten.com cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2021.
Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr, 4 Mawrth 2021.