Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad o “Sw Sara Mai”

Llenyddiaeth

gan Elin Williams (12 oed)

Mi wnes i fwynhau darllen y nofel hon yn fawr iawn. Mae hi’n stori hyfryd am sut mae merch o’r ysgol gynradd – Sara Mai – yn ddibynnol ar y sw a’r anifeiliaid i’w chadw yn hapus, ac i gynnal y teulu o ran bywoliaeth. Yna, mae dyn pwysig iawn a chanddo lawer o arian yn symud i fyw i’r dref, ac yn bygwth cau’r lle. Felly mae’n rhaid i Sara Mai, a’i ffrind newydd, Oli, geisio meddwl am ffyrdd o newid meddwl y bobol bwysig, a chadw’r sw yn agored. Heb ddatgelu gormod, prif thema’r nofel yw’r ffyrdd y mae Sara Mai, ei theulu, ac Oli, gyda’i gilydd, yn ceisio darbwyllo’r bobol bwysig ar y cyngor fod y sw yn cynnig cartref gwell i’w hanifeiliaid na’r bywyd fyddai ganddyn nhw petaen nhw’n cael eu gwerthu … neu eu dinistrio.
Fy hoff beth am y llyfr yma oedd rhan yr anifeiliaid ynddo, a sut roeddent yn cadw cwmni i Sara Mai wedi iddi ddod adref o’r ysgol, lle mae merch gyfoethog yn ei bwlio am liw ei chroen. Dwi wrth fy modd efo diweddglo’r stori hefyd – ond bydd rhaid i chi ei darllen er mwyn gweld beth sy’n digwydd!
Fy hoff gymeriad i yn y stori oedd Oli, bachgen o’r un oed â Sara Mai, oherwydd ei fod yn sownio’n fachgen clên iawn, ac yn poeni dim am beth roedd unrhyw un arall yn meddwl ohono. Yn ogystal â hyn, nid yw Oli’n troi ei gefn ar Sara Mai pan mae plant arall y dosbarth yn bod yn gas â hi, ac mae o’n fachen cyffredin, di-ffws sy’n hoff iawn o arlunio anifeiliaid y sw.
Nid oeddwn i’n hoffi cymeriad Leila o gwbl. Roedd hi’n ferch gyfoethog a chreulon, ac yn rhoi amser caled iawn i Sara Mai yn yr ysgol ohewydd lliw ei chroen. Ar ben popeth, mae’n dod i’r amlwg tuag at ddiwedd y stori fod gan dad Leila ran yn yr ymgais i darfu ar fywydau Sara a’i theulu. Darllenwch y nofel er mwyn gweld sut mae’n gwneud hyn, a gweld a ddaw tro ar fyd ac a fydd Leila a’i thad yn newid?
Dwi’n credu bod y llyfr yma’n addas i blant o tua’r un oedran â Sara Mai, sef Blwyddyn 5 yn yr ysgol gynradd, neu efallai ychydig yn hŷn. Ydi’r stori’n haeddu bawd i fyny neu fawd i lawr? I fyny, yn bendant!
Sw Sara Mai gan Casia Wiliam yw Llyfr y Mis i Blant, mis Awst, Cyngor Llyfrau Cymru.
Ar gael o’ch siop lyfrau leol nawr.
Chwilio am lyfrau newydd i blant? Porwch drwy ein catalog Haf o Ddarllen am ysbrydoliaeth.

RHANNWCH