Cartref digidol diwylliant Cymru.

Kieran Evans

Organisation Logo

Gwneuthurwr ffilm yw Kieran Evans o’r ddinas leiaf yng Nghymru, Tyddewi, Sir Benfro. Mae’r ddawn o ddweud stori ynghyd a’i lygaid craff am dirwedd, lleoliadau amgen a natur yn thema gyson trwy ei waith gan gynnwys The Outer Edges, Finisterre, Vashti Bunyan: From Here To Before, a’i ffilm fwyaf diweddar i’r BBC a Sky Arts; Dexys: Nowhere Is Home and David Gilmour: A Wider Horizon, Toots and The Maytals: From The Roots.

Mae Kieran hefyd wedi cyfarwyddo fideos cerddorol, fideos byr a delweddau byw i ystod eang o gerddorion clodwiw rhyngwladol gan gynnwys y Manics, John Grant, Hot Chip, Saint Etienne, Spiritualized, Kylie Minogue, David Gray, Karl Hyde, Underworld, Django Django ac Edwyn Collins i enwi ond rhai. 

Yn ddiweddar, bu Kieran yn cyfarwyddo fideo hyrwyddo newydd i un o fandiau mwyaf cyffrous 2020, sef Working Mens Club ynghyd â gorffen ffilmio rhaglen ddogfen am y Madness ar gyfer Sky Arts.

Cynnwys