Be sydd wedi’w gynnwys?
- Mynediad llawn at Brif Lwyfan y Sesiwn Fawr yng Nghefn y Ship ar Nos Wener 18/7/25, Nos Sadwrn 19/7/25, a Dydd Sul 20/7/25
- Mynediad at sesiynau llên a sgyrsiau’r Sesiwn yn Nhŷ Siamas ar brynhawn Sadwrn 19/7/25
- Mynediad at lwyfan acwstig newydd sbon yn Eglwys y Santes Fair ar brynhawn Sadwrn 19/7/25
- Mynediad i’r Sesiwn Gomedi, nos Sul 20/7/25
Noder: Bydd tocynnau dyddiol ar gyfer llwyfan y Ship yn cael eu rhyddhau gyda gweddill tocynnau’r Sesiwn Fawr ym mis Mawrth 2025. Nid yw’r tocyn penwythnos yn caniatau mynediad at gig yn Eglwys y Santes Fair ar y nos Iau (17/07/25), nac at gigs y Clwb Rygbi.
Telerau ac Amodau:
- Mae’r tocyn hwn yn brawf prynu ar gyfer y digwyddiad uchod a rhaid ei ddangos i gael mynediad.
- Mae’r tocyn yn caniatâu mynediad I Lwyfan Y Ship ac yn caniatâu mynediad ar sail y cyntaf i’r felin i leoliadau llai (ee. Comedi)
- Ni chaniateir mynediad i unrhyw leoliad wedi 23.00.
- Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r digwyddiad.
- Mae gan y trefnwyr hawliau dros unrhyw gynnyrch ffilmio, ffotograffu a chynhyrchu fideo i’r digwyddiad yma.
- Os caiff y digwyddiad ei ganslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl, cynigir ad-daliad llawn i’r holl gwsmeriaid.
- Bydd unrhyw ddata a gesglir ar gyfer marchnata’r digwyddiad yn unol a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
- Nid yw Sesiwn Fawr Dolgellau yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eiddo personol.