Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol.
Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol.