Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lleucu Non – Dwi Ar Gau

Cerddoriaeth

Wedi i senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies greu argraff ar ddechrau’r flwyddyn, pleser cyhoeddi mai Lleucu Non yw’r pedwerydd artist i ryddhau drwy UNTRO, gyda’i thrac cyntaf, ‘Dwi Ar Gau’, allan ddydd Gwener 11eg Hydref.

Mae ‘Dwi Ar Gau’ yn drac sy’n efelychu natur gymhleth perthynas bell, wrth i Lleucu samplo sgyrsiau coll o ebargofiant peiriant ateb ei ffôn. Yn llithro rhwng yr amrwd a’r breuddwydiol, mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan y cerddor, Sywel Nyw, a’n cyfuno curiadau cynnil gyda melodïau moethus Lleucu. Yn rhan o gydweithrediad rhwng Klust a Youth Music, daeth y ddau artist ynghyd i recordio’r trac yng ngholeg LCCM yn Llundain fis Gorffennaf.

Gydag artistiaid fel Thallo, Mazzy Star a Cate le Bon ymhlith ei dylanwadau, mae ‘Dwi Ar Gau’ yn dod â syniadau seinyddol Lleucu yn fyw, wedi iddi hel samplau a chasglu synau dros gyfnod o bedair blynedd. Eglura Lleucu: “Dechreuais ‘sgwennu caneuon tua phedair blynedd yn ôl wrth ddechrau ymarfer y gitâr yn ystod y cyfnod clo. Mae’n gyffrous iawn gallu rhyddhau fy sengl gyntaf o’r diwedd!”

Wedi’i magu yn Nyffryn Nantlle a bellach yn byw yn Gaerdydd, ychwanega Lleucu: “Roedd recordio yn Llundain a chydweithio hefo Sywel Nyw yn brofiad arbennig iawn a dwi’n falch o allu cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd mor dalentog. Mae cyd-destun lyrics ‘Dwi Ar Gau’ yn agored i’w ddehongli, ond i mi, mae o’n cyfleu’r angst mae llawer o bobl yn ei deimlo ar ôl graddio, ymhlith syniadau eraill! Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac.”

RHANNWCH